Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Roedd y Cymro Edward Gordon Douglas-Pennant yn berchennog tir a gwleidydd. Ganed yn Edward Gordon Douglas yn 1800. Ei daid, ar ochr ei dad oedd James Douglas, 14eg Iarll Morton, a’i frawd hŷn oedd George Sholto Douglas, 17eg Iarll Morton. Etifeddodd ystâd y Penrhyn, ger Bangor, Gogledd Cymru, gan Richard Pennant, perthynas i’w wraig, Juliana (1737?-1808), a newidiodd ei enw drwy Drwydded Frenhinol i Douglas-Pennant.
Roedd yn berchennog tir pwerus, a ehangodd ystâd y Penrhyn yng Nghymru a Lloegr. Daeth yn berchennog Chwarel Lechi’r Penrhyn, ger Bethesda, Gogledd Cymru. O dan ei berchnogaeth, ehangodd y chwarel nes ei bod yn un o’r chwareli llechi mwyaf yn y byd.
Dechreuodd ymhél â gwleidyddiaeth, a rhwng 1841-1865 daeth yn Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon. Yn 1866 fe’i gwnaed yn Arglwydd Penrhyn o Landygai. Cafodd ei olynu gan ei fab hynaf George Sholto Gordon Douglas-Pennant (1836-1907).
Ganed Lewis Weston Dillwyn, naturiaethwr a gŵr busnes, yn 1778 yn Hackney, Llundain Fwyaf. Roedd ei dad, a aned yn America ac a fu’n byw yno am y rhan fwyaf o’i fywyd, yn ymgyrchydd blaenllaw yn erbyn caethwasiaeth. Cafodd addysg yn Ysgol y Cyfeillion dan ofal y Crynwyr yn Tottenham. Yn 1798, aeth i Dover a dechreuodd astudio planhigion. Fe’i gwnaed yn gymrawd y Gymdeithas Linneaidd yn 1800.
Yn 1802, prynodd ei dad Grochendy’r Cambrian yn Abertawe, a rhoddodd y lle dan ofal ei fab. Symudodd i’r ardal, gan fyw i ddechrau yn Burrough Lodge, yna yn Sketty Hall. Yn 1814, daeth dylunwyr a chrefftwyr Crochendy Nantgarw dan reolaeth Crochendy’r Cambrian, a dechreuwyd gweithgynhyrchu porslen. Bu’n rhedeg y cwmni tan 1817.
Roedd hefyd yn adnabyddus am y gwaith a gyhoeddodd ar fotaneg a chregynneg. Dechreuodd gyhoeddi ei brif waith botaneg, the Natural History of British Confervae, astudiaeth ddarluniadol o algae dŵr croyw ym Mhrydain, yn 1802, gan ei gwblhau yn 1809. Yn 1805 cyhoeddodd Botanist’s Guide through England and Wales gyda Dawson Turner, ac wyth mlynedd yn ddiweddarach yn 1817, cyhoeddodd A Descriptive Catalogue of British Shells.
Yn sgil y Ddeddf Diwygio etholwyd Dillwyn yn 1832 i’r senedd fel aelod dros Forgannwg. Roedd wedi bod yn uchel siryf y sir yn 1818. Rhoddwyd hawlfraint bwrdeistref Abertawe iddo yn 1834, ac yn 1839 ef oedd Maer Abertawe.
Yn 1807, priododd Mary Adams (1776-1865), merch John Llewelyn o Benlle’r-gaer, Llangyfelach, Morgannwg, a chawsant dri mab a thair merch. Roedd eu mab, John Dillwyn Llewelyn (1810-1882) yn ffotograffydd ac yn wyddonydd arbrofol. Roedd eu mab Lewis Llewelyn Dillwyn AS (1814-1892) yn Rhyddfrydwr Cymreig enwog.