Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Daeth y teulu Holl, oedd yn wneuthurwyr printiau, (ca.1800-1884) i amlygrwydd gyntaf drwy waith y tad, sef William Holl (1771-1838). Câi ei brintiau ef eu gwneud yn bennaf drwy ddefnyddio’r dechneg dotwaith ac roedd ei waith yn cynnwys nifer o blatiau o bortreadau a cherfluniau oedd yn atgynyrchiadau o waith artistiaid cyfoes.
Roedd yn un o’r ysgythrwyr cyntaf i roi cynnig ar fowld newydd y plât dur ar gyfer ysgythru arian papur yn 1819. Bwriodd ei bedwar mab brentisiaeth gyda’u tad fel ysgythrwyr, sef William Holl y mab (1807-1871), Charles Holl (ca.1810-1882), Henry Benjamin Holl (1808-1884) a Francis Holl (1815-1884).
Roedd Lewis yn ysgythrwr, yn ogystal ag yn ysgythrwr acwatint a dotwaith, ac yn arlunydd tirluniau a phortreadau. Astudiodd dan arweiniad J. 0. Stadler, a bu’n fyfyriwr yn yr Academi Frenhinol. Cafodd ei benodi’n ysgythrwr i Siôr IV, William IV a’r Frenhines Fictoria. Gwaith gan Syr Thomas Lawrence a ysgythrai’n bennaf, nes bu farw’r artist yn 1830.
Peintiodd dirluniau, a ganolbwyntiai’n bennaf ar olygfeydd o Swydd Dyfnaint a chyhoeddodd nifer o blatiau’n darlunio afonydd Swydd Dyfnaint rhwng 1821 a 1843, yn ogystal ag ysgythriadau o’r Scenery of the Rivers of England and Wales 1845-7. Yn ogystal ag ysgythriadau dotwaith a llin-ysgythriadau, mae rhai ysgythriadau acwatint topograffigol (ca.1845) gan Lewis yn rhan o gasgliadau’r Llyfrgell.
Ysgythrwr portreadau oedd Pound yn bennaf a chreodd y rhan fwyaf o’i bortreadau drwy gopïo ffotograffau gan John Jabez Edwin Mayall (1813-1901). Daeth yn feistr ar y dull hwn o atgynyrchiadau wedi’u hysgythru.
Ymddangosodd nifer o’i bortreadau yn y gyfres, ‘The Drawing Room Portrait Gallery of Eminent Personages’, yn yr Illustrated News of the World.
Roedd William Roos yn arlunydd portreadau ac yn ysgythrwr mesotint poblogaidd. Fe’i ganed ger Amlwch, Gogledd Cymru, yn 1808. Er mai yng Nghymru yr oedd yn byw, treuliodd gyfnodau yn Llundain a theithiai’n aml fel rhan o’i waith yn gwneud portreadau. Gwnaeth nifer o bortreadau o enwogion Cymru ar y pryd, gan gynnwys John Elias, Christmas Evans a John Jones, ‘Talhaiarn.’
Roedd yn feistr ar beintio portreadau olew ac ysgythriadau mesotint, ond hefyd gwnaeth beintiadau tirlun, bywyd llonydd a dyfrlliw. Peintiodd rai tirluniau hanesyddol ar gyfer cystadlaethau’r Eisteddfod ac enillodd wobrau am ei beintiadau o ‘Farwolaeth Owain Glyndŵr’ a ‘Marwolaeth Capten Wynn yn Alma’ yn Eisteddfod Llangollen yn 1858.
Ganed George Vertue, ysgythrwr a hynafiaethydd, yn Llundain yn 1684. Dechreuodd hyfforddi dan arweiniad ysgythrwr anhysbys o Ffrainc (c.1698-1701), ac yna bwriodd ei brentisiaeth gyda Michael van der Gucht (1600-1725) tan 1709. Yna sefydlodd ei hun fel ysgythrwr annibynnol, gan gynhyrchu gwaith amrywiol, yn arbennig atgynyrchiadau o bortreadau gan Syr Godfrey Kneller.
Yn 1717 fe’i penodwyd yn ysgythrwr i’r Gymdeithas Hynafiaethwyr, gan gyfrannu at ei Vetusta monumenta. Erbyn canol y 1730au roedd yn cael ei ystyried yn un o’r ysgythrwyr gorau am wneud atgynyrchiadau. Roedd nifer o’i ysgythriadau’n seiliedig ar bortreadau ac arddelwau o bobl hanesyddol. Roedd rhai o’i enghreifftiau’n cynnwys ei gyfres o naw o ‘Brintiau Hanesyddol’ o beintiadau o’r cyfnod Tuduraidd, ac ysgythriadau o bortreadau ar gyfer The heads of illustrious persons of Great Britain (Llundain, 1747), ymdrech ar y cyd â’r ysgythrwr Jacobus Houbraken.
Roedd Vertue yn aelod amlwg o glybiau’r artistiaid ac academïau preifat y cyfnod. Roedd hefyd yn adnabyddus fel hynafiaethydd, ac roedd ganddo ddiddordeb mawr yn hanes artistig a diwylliannol Prydain.