Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bedyddiwyd Ebenezer Morgan yn Lledrod, Ceredigion ar 9 Gorffennaf, 1820. Bwriodd ei brentisiaeth yn y fasnach gwaith coed yn Nhregaron ac yna bu’n gweithio fel saer ym Manceinion a Birmingham. Ar ôl dychwelyd i Aberystwyth aeth i bartneriaeth â Benjamin Hughes, oedd yn berchen ar siop gwerthu nwyddau haearn yn y dref.
Yn fuan wedyn, dechreuodd Morgan, ar y cyd â John Owen (y ffotograffydd cyntaf i ddod i Aberystwyth) eu busnes ffotograffiaeth eu hunain, ac erbyn tua 1860 roedd Morgan wedi sefydlu 2 stiwdio ei hun ar Heol y Wig. Roedd yr 1880au yn gyfnod llewyrchus ar gyfer ffotograffiaeth yn Aberystwyth ac erbyn 1880 roedd Morgan yn berchen ar un o’r chwe busnes ffotograffiaeth yn y dref. Roedd yn un o’r ffotograffwyr cynharaf mwyaf amlwg yn y dref, a pharhaodd y busnes am dros ddeugain mlynedd nes iddo ymddeol yn 1899.
Mab i labrwr oedd John Thomas o Gellan, Ceredigion. Yn 1853 symudodd i Lerpwl i weithio mewn siop ddillad. Dros gyfnod o ddeng mlynedd cafodd y gwaith effaith niweidiol ar ei iechyd a bu’n rhaid iddo chwilio am waith arall.
Ar ddechrau’r 1860au, gweithiodd i gwmni a werthai ddeunyddiau ysgrifennu a ffotograffau o enwogion. Roedd cyhoeddi a gwerthu ffotograffau bychan o bobl enwog (ffotograffau carte-de-visite) yn fusnes proffidiol iawn ar y pryd. Yn fuan sylweddolodd cyn lleied o Gymry a ddarlunnid yn y ffotograffau o enwogion a werthai, felly penderfynodd fynd ati ei hun i newid hyn.
Dysgodd hanfodion ffotograffiaeth ac yn 1863 dechreuodd dynnu ffotograffau o bobl enwog drwy wahodd nifer o bregethwyr enwog i eistedd am eu llun. Roedd y fenter yn llwyddiant ac erbyn 1867 roedd yn ddigon hyderus i sefydlu ei fusnes ffotograffiaeth ei hun yn Lerpwl, sef ‘The Cambrian Gallery.’
Gweithiodd fel ffotograffydd am tua deugain mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw teithiodd i bob cwr o Gymru gan dynnu ffotograffau o dirluniau yn ogystal â phobl.
Ganed Hugh Humphreys yng Nghaernarfon yn 1817. Yn 12 oed prentisiwyd ef gyda Peter Evans, argraffydd yng Nghaernarfon. Sefydlodd ei fusnes argraffu ei hun yn y dref yn 1837, ac yn fuan datblygodd y busnes yn fenter llawer mwy a oedd hefyd yn cynnwys gwerthu llyfrau, ffotograffiaeth a pheintiadau olew. Ffynnodd y busnes am bron i drigain mlynedd. Un o’r llyfrau pwysicaf a gyhoeddodd oedd A Tour in Wales (cyh. 1778-1783) gan y teithiwr, naturiaethwr a hynafiaethydd, Thomas Pennant (1726-1798).
Yn ôl cyfarwyddiaduron masnach, roedd Humphreys yn gweithio fel ffotograffydd tirluniau a phortreadau yn yr 1880au a’r 1890au o dan y teitl ‘Humphreys Photographic Studio & Fine Art Gallery’ yn Adeiladau Paternoster, ar y Maes, Caernarfon. Roedd nifer o’r ffotograffau a wnâi ar ffurf ffotograffau cardiau, oedd yn hynod o boblogaidd yn ystod y cyfnod hwn. Cymerodd ran amlwg ym mywyd y dref, a chafodd ei ethol yn Faer yn 1876.
Roedd John Wickens yn ffotograffydd enwog ym Mangor gyda stiwdios yn Y Cilgant a Ffordd y Coleg, Bangor Uchaf a Stryd Fawr, Bangor. Yn ôl y cyfarwyddiaduron masnach dechreuodd weithio fel ffotograffydd yn y dref yn 1889 a daliodd i weithio yno am weddill ei fywyd.
Erbyn 1990, roedd ganddo ddau safle yn Retina Studio, Bangor Uchaf , a Studio Royal, 43 Stryd Fawr. Roedd yn ffotograffydd portreadau cynhyrchiol, ac enillodd wobrau am ei luniau, yn cynnwys medal Aur yn Eisteddfod Abertawe yn 1891.
Ganed Henry Alfred Chapman yn Coningsby, Swydd Lincoln, yn 1844 ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Lincoln. Ymgartrefodd y teulu Chapman yn Abertawe yn 1860. Agorodd ei dad, Samuel Palmer Chapman stiwdio ffotograffiaeth yn York Street ac yn ddiweddarach yn y Stryd Fawr. Yn ddiweddarach symudodd Henry i Rif 235 Stryd Fawr i sefydlu ei siop a’i stiwdio ei hun a chartref i’r teulu. Roedd Henry a’i dad ymysg y ffotograffwyr masnachol cyntaf yn Abertawe.
Yn ystod ei flynyddoedd cynnar, roedd newidiadau technegol yn digwydd yn gyson ym maes ffotograffiaeth ac roedd bob amser yn awyddus i arbrofi. Cynhyrchodd y portreadau ar gardiau oedd yn hynod o boblogaidd, sef y ‘cartes-de-visite’. Gwerthid y rhain am 2/- yr un am dros 13 mlynedd.
Yn 1870 fe’i hapwyntiwyd yn ffotograffydd y Llywodraeth ar gyfer Morgannwg. Enillodd nifer o wobrau am ei ffotograffau, gan gynnwys chwe gwobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Merthyr Tudful yn 1901. Gweithiodd yn ddyfal a chafodd yrfa hir. Erbyn 1908, roedd ganddo gynifer â 350,000 o negatifau gwydr.
Roedd ei gariad at ddarlunio a pheintio hefyd yn amlwg drwy gydol ei fywyd. Roedd yn arlunydd portreadau a chynigiai’r gwasanaeth hwn ochr yn ochr â’i waith fel ffotograffydd. Gweithiai’n bennaf mewn olew a pheintiodd nifer o Gymry enwog o’r ardal megis Syr John Dillwyn Llewelyn a William Thomas o Lan. Yn y 1870au ef oedd y prif artist ar gyfer y cyhoeddiad misol The Swansea boy.
Cafodd ei ethol ar y Cyngor yn 1881 a bu’n gynghorydd ac yn Oruchwyliwr y Tlodion am ugain mlynedd. Yn 1892 cafodd ei ethol yn Faer Abertawe.