Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Ganed David Bell, artist a bardd, yn Llundain yn 1915. Roedd yn fab i Mabel Winifred a Syr Idris Bell, ysgolhaig a chyfieithydd. Fe’i cyflwynwyd i’r celfyddydau am y tro cyntaf yn Ysgol Merchant Taylors, Llundain. Ar ôl cwblhau ei addysg yn y Coleg Celf Brenhinol, ymunodd â thaith i Swdan ac Irac (1936-1938) gyda’r Egypt Exploration Society, a bu’n gweithio yn Sesebi ac Amarch. Ar ôl dechrau’r Ail Ryfel Byd cafodd waith gan Adran Gartograffeg y Morlys yn Lloegr ac yna yng Nghymru yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth.
Ar ôl y rhyfel, penodwyd Bell yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Cyngor Celfyddydau Cymru ac yn 1951 daeth yn Guradur Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe. Yn 1952, cydweithiodd â’i dad i gyfieithu cerddi Dafydd ap Gwilym, a bu’n cyfieithu testunau Cymraeg, fel ei dad, drwy gydol ei fywyd.
Er ei fod weithiau’n herio’r maes celf yng Nghymru, roedd Bell yn gefnogol iawn i ddoniau pobl ifanc yn y wlad, ac roedd yn hael ei gefnogaeth i artistiaid cyfoes. Prynai waith gan artistiaid cyfoes fel Ceri Richards ar gyfer Oriel Glynn Vivian.
Ganed John Kelt Edwards ym Mlaenau Ffestiniog, Gogledd Cymru yn 1875. Ar ôl cael addysg mewn ysgol leol, Coleg Llanymddyfri a Beaumont, Jersey, treuliodd nifer o flynyddoedd yn darlunio a pheintio yn Fflorens a Pharis lle cafodd hyfforddiant gan artistiaid o bwys. Arddangoswyd peth o’i waith yn y Salon de Paris ac yn Llundain.
Ar ôl dychwelyd i Brydain, ymgartrefodd yn Llundain. Prynodd stiwdio yno, a gwnaeth bortreadau o nifer o Gymry Llundain gan gynnwys David Lloyd George, y Fonesig Megan Lloyd George a Syr Owen M. Edwards. Dychwelodd i Ogledd Cymru cyn y Rhyfel, a hynny o bosibl am i’r Academi Frenhinol wrthod un o’i bortreadau o David Lloyd George, fu’n destun siom mawr iddo.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gwnaeth gartwnau rhyfel ac yn ddiweddarach cynlluniodd faner ac arwyddlun y ‘Comrades of the Great War’ a rhestr gwroniaid y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Mae portreadau eraill a wnaed ganddo o lenorion adnabyddus o Gymru’n cynnwys R. O. Hughes (Elfyn) ac Ellis H. Evans (Hedd Wyn). Roedd hefyd yn enwog am ei luniau ar gyfer llyfrau.
Ganed Mervyn Levy, artist, awdur, beirniad ac athro, yn Abertawe yn 1914. Aeth i’r ysgol gyda’r bardd Dylan Thomas, a ddaeth yn gyfaill mynwesol iddo. Roedd yn ymddiddori’n fawr mewn celf ac yn 1935, tra oedd yn fyfyriwr yn y Coleg Celf Brenhinol, dyfarnwyd Gwobr Syr Herbert Read iddo am waith darlunio.
Ar ôl gwasanaethu fel Capten Corfflu Addysgol Brenhinol y Fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu’n gweithio fel tiwtor celf ym Mhrifysgol Bryste ac yn y Royal West of England Academy, Bryste.
Yn ystod y 1950au arweiniodd ei sgiliau addysgu at ei gyfres deledu ei hun ar y BBC ‘Painting for housewives’ a ddarlledwyd am nifer o flynyddoedd. Hefyd roedd yn westai cyson ar raglenni celfyddydau’r BBC ar y radio a bu’n cyfweld artistiaid ar gyfer archifau Radio’r BBC.
Yn ystod y 30 mlynedd nesaf cynhyrchodd 25 o lyfrau yn cynnwys A dictionary of art terms (1963), The paintings of D. H. Lawrence (1964) a Whistler lithographs (1975). Daeth yn awdurdod mawr ar yr arlunydd Seisnig, L. S. Lowry (1887-1976), gan gyhoeddi sawl cyfrol, yn ogystal â dod yn gyfaill iddo.
Ganed Maclise yn Cork, Iwerddon. Cafodd addysg glasurol yno ac o oedran cynnar iawn amlygodd ddiddordeb mawr mewn darlunio. Yn 1822, ar ôl cyfnod byr yn gweithio fel clerc banc, gadawodd i astudio yn y Cork Institute of Arts, lle dechreuodd ddarlunio’r casgliad o gastiau o gerfluniau o’r Fatican. Câi darluniau Maclise eu harddangos yn siop ei dad ac roeddent yn denu llawer o sylw.
Cafodd lwyddiant cyhoeddus am y tro cyntaf am ei lithograff o Syr Walter Scott yn Nulyn, a ddenodd lawer o sylw. O ganlyniad, derbyniodd sawl comisiwn i wneud portreadau ac agorodd ei stiwdio ei hun ar ddiwedd 1825 yn Cork, lle gwnaeth nifer o bortreadau o swyddogion a phobl broffesiynol. Yma arbenigodd mewn darluniau pensil manwl o bobl.
Er mwyn datblygu ei yrfa, teithiodd Maclise i Lundain a daeth yn fyfyriwr yn yr Academi Frenhinol yn 1828. Derbyniodd y wobr uchaf bosibl am ei ddarluniau, peintiadau a’i gynlluniau. Uchafbwynt ei gyfnod yn astudio oedd ennill y fedal aur am beintiad hanes am ei ‘Choice of Hercules’ yn Rhagfyr 1831. Yn ystod y 1830au datblygodd beintiadau hanes a golygfeydd genre, o dan ddylanwad y diddordeb cyfoes mewn peintio genre Iseldiraidd a Fflemaidd yn yr 17eg ganrif.
Y digwyddiad canolog yng ngyrfa Maclise oedd y comisiwn a gafodd i beintio rhai o furluniau’r Senedd. Peintiodd ddau ffresgo ar gyfer Siambr Tŷ’r Arglwyddi, sef ‘Spirit of Chivalry a Spirit of Justice’, yn yr arddull canoloesol yr oedd Dyce, Eastlake a’r Tywysog Albert yn hoff ohono. Arweiniodd ei ddarluniau naratif mawr yn y 1850au at ddarlunio cartwnau ‘Meeting of Wellington and Blücher a Death of Nelson’ ar gyfer Oriel Frenhinol Palas San Steffan, a gwblhaodd yn 1861 ac yn 1865.
Ymysg rhai atgynyrchiadau o’i ddarluniau a’i beintiadau gwreiddiol, mae llun dyfrlliw gan y geiriadurwr, hynafiaethydd a’r bardd William Owen Pughe (1759-1835) yng Nghasgliad y Llyfrgell o Bortreadau.
Ganed Syr Leslie Ward [ffugenw Spy], gwawdluniwr ac arlunydd portreadau, yn 1851 yn Llundain. Roedd ei rieni, Edward Matthew Ward (1816-1879) a Henrietta Mary Ada Ward (1832-1924) yn artistiaid o bwys. Cafodd ei addysg yn Ysgol Baratoi Chase ger Slough, a Choleg Eton. Yma darluniai wawdluniau o’i gyfoedion a’i athrawon. Gadawodd yr ysgol yn 1869, ac ar ôl blwyddyn anhapus yn gweithio mewn swyddfa penseiri, cytunodd ei dad i’w gefnogi tra byddai’n hyfforddi fel artist. Aeth i Ysgolion yr Academi Frenhinol yn 1871.Y maes a ddewisodd ac y disgleiriai ynddo oedd gwawdluniau parchus.
Yn 1873, cyflwynwyd Ward gan ffrind teuluol i sylfaenydd berchennog Vanity Fair, Thomas Gibson Bowles. Sylwodd ar allu Ward i ddal tebygrwydd pobl gyhoeddus amlwg ac fe’i gwahoddodd i ymuno â staff y cylchgrawn enwog. Awgrymodd Ward i Bowles y dylai ddefnyddio’r ffugenw ‘Spy…'"arsylwi’n gyfrinachol, neu ddarganfod o bellter neu ynghudd”, ac felly arwyddai Leslie Ward ei bortreadau gyda’r ffugenw ‘Spy.’
Rhwng 1873 a 1889, roedd ei waith ef a gwaith Carlo Pellegrini (ffugenw ‘Ape’) yn amlwg iawn yn y cartŵn lliw wythnosol yn Vanity Fair. Gwnaeth tua 1,325 o gartwnau ar gyfer y cylchgrawn rhwng 1873 a 1911, gan lwyddo i ddal tebygrwydd y bobl dan sylw ar sawl achlysur. Yn aml dibynnai ar ei gof wrth weithio, ar ôl sylwi ar y bobl yn eu gwaith. Ef oedd artist mwyaf adnabyddus Vanity Fair, ac mae’r ffaith y cyfeirir yn aml at y gwawdluniau fel ‘Cartwnau Spy’ yn cadarnhau hynny.