Symud i'r prif gynnwys

Sut mae chwilio casgliadau penodol

Oes angen mewngofnodi cyn chwilio??

Nid oes rhaid mewngofnodi cyn chwilio, ond gall fod yn ddefnyddiol gan na fydd yn rhaid i chi ail-ddewis unrhyw gyfrolau ac ati y gallech fod wedi eu dewis eisoes ar y cofnod eitem.

Dim ond o fewn casgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol fi am chwilio, sut mae gwneud hyn?

Os mai dim ond canlyniadau ar gyfer eitemau a gedwir yng nghasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol yr ydych chi eu heisiau, dylech ddewis 'Yn y Llyfrgell' o'r ddewislen wrth i chi nodi'ch term chwilio.

Sut mae chwilio'r Adnoddau Allanol mae'r Llyfrgell yn tanysgrifio i?

Mae rhestr o'n Adnoddau Allanol ar dop bob tudalen o'r Catalog. Mae hefyd i'w weld mewn blwch ar y dudalen flaen.

O'r rhestr hon gallwch ddewis pa adnoddau yr hoffech eu chwilio, neu gallwch chwilio ar draws y cyfan o'r blwch chwilio ar frig y dudalen.

Sut mae chwilio casgliadau archifau a llawysgrifau?

Mae Archifau a Llawysgrifau LlGC yn gatalog ymroddedig ar gyfer ein casgliadau archifol a llawysgrifau. Gallwch chwilio a gweld y goeden archifol ar gyfer pob casgliad ar y catalog hwn. Gallwch hefyd ofyn am eitemau i'w gweld yn yr Ystafell Ddarllen

Os dymunwch, gallwch chwilio archifau a llawysgrifau yn y brif Gatalog, ond byddai angen i chi hidlo eich canlyniadau i'r casgliadau hyn yn unig. I wneud hyn, dewiswch Archifau a Llawysgrifau o dan Math o Adnoddau' yng ngholofn dde eich canlyniadau.

Sylwer na allwch chwilio am ewyllysiau na bondiau priodas yn Archifau a Llawysgrifau LlGC. Dylech ddefnyddio'r ffurflen chwilio am ewyllysiau pwrpasol a'r ffurflen chwilio am fondiau priodas i chwilio'r casgliadau hyn.

A oes gennych adnoddau chwilio eraill ar wahân i'r prif gatalogau?

Oes. Mae nifer o wefannau a ffurflenni chwilio sy'n eich galluogi i chwilio am gasgliadau penodol ee Papurau Newydd Cymru Arlein, Ewyllysiau ac ati.

Gweler y dudalen Adnoddau Llyrgell am rest gyflawn o'r adnoddau chwiliadwy sydd ar gael. Ambell waith mae'n well defnyddio'r adnoddau pwrpasol ar y dudalen hon er mwyn chwilio casgliadau pendool fel bod eich chwilio wedi cyfyngu'n gywir. Mae rhai yn cynnig nodweddion ychwanegol ee chwilio papurau newydd ar lefel erthygl.


Sut orau i chwilio’r prif Gatalog

Sut fedraf gael y gorau o'm termau chwilio?

Wrth chwilio ar unrhyw un o'n Catalogau, mae'n well osgoi defnyddio brawddegau.

Bydd y Catalog yn chwilio am yr holl dermau yr ydych chi'n eu defnyddio, felly bydd defnyddio brawddegau hir yn dod â llawer o ganlyniadau amherthnasol e.e. peidiwch â defnyddio termau chwilio fel 'ewyllysiau o esgobaeth Llanelwy'. Yn lle hynny, dylech gyfyngu eich termau chwilio e.e. ewyllysiau A Llanelwy (gweler y cwestiwn am chwilio Boolean isod am eglurhad ynghylch sut i ddefnyddio ‘A’ yn eich termau chwilio).

A fedraf gyfyngu fy chwiliad o'r dechrau i leihau nifer y canlyniadau?

Medrwch. Pan fyddwch yn teipio eich termau chwilio, fe welwch chi ddewislen yn ymddangos o dan y blwch chwilio. Mae hwn yn eich galluogi i ddewis pa fath o ddeunydd yr hoffech eu chwilio. Bydd clicio ar un o'r rhain yn cyfyngu eich canlyniadau chwilio’n sylweddol. Gweler y dudalen gymorth Beth Gallaf ei Chwilio i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae'r opsiynau yma’n golygu.

Gallwch hefyd weld y rhestr hon yn y ddewislen i'r dde o'r blwch chwilio (mae'n dweud Yn Y Llyfrgell). Mae'r rhestr hon ychydig yn hwy na'r ddewislen sy'n ymddangos wrth i chi deipio.

Yn ddiofyn, byddwch bob amser yn chwilio Yn Y Llyfrgell, sy'n golygu y bydd eich chwiliad yn cael ei gyfyngu i holl gasgliadau LlGC.

Mae gen i ormod o ganlyniadau, sut alla i eu mireinio/hidlo?

Ar ôl i chi weld eich canlyniadau, fe welwch golofn o hidlwyr i'r dde sy'n eich galluogi i fireinio'ch canlyniadau.

Gallwch fireinio trwy:

  • Dyddiad Creu (teipiwch y dyddiadau yr hoffech chwilio rhyngddynt a chliciwch ar y ddolen Chwilio i'r dde o'r blychau) 
  • Math o Adnodd (y math o eitemau y mae gennych ddiddordeb ynddynt (e.e. llyfrau, archifau a llawysgrifau ac ati)
  • Argaeledd (prun ai yw'r eitem yn un ffisegol yn y Llyfrgell, neu’n un digidol ac ar gael i'w gweld arlein)
  • Awdur/Crëwr (y person/sefydliad ac ati a grëodd yr eitem e.e. awdur, ffotograffydd, artist ayb)
  • Casgliad (pa gasgliad y mae'r eitem yn perthyn iddi e.e. ewyllysiau, ITV ayb) • Iaith (ym mha iaith y mae'r eitem wedi'i hysgrifennu)
  • Pwnc (penawdau pwnc penodol y mae'r eitem yn berthnasol iddynt)

Sut mae defnyddio'r hidlyddion yng ngholofn dde fy nghanlyniadau?

Gallwch ddewis un eitem ar y tro o'r rhestr trwy glicio ar destun yr un rydych ei eisiau.

Gallwch ddewis mwy nag un ar yr un pryd drwy dicio'r blychau ar y chwith i bob label (testun) ac yna clicio ar y botwm Gosod Dewisiadau sy'n ymddangos ar waelod y golofn.

Gallwch hefyd ddewis hepgor rhai o'r eitemau trwy symud y lygoden dros y testun a chlicio ar yr eicon coch o flwch gyda thic a llinell drwyddo sy'n ymddangos i'r dde o'r testun.

Bydd unrhyw hidlyddion yr ydych wedi'u dewis yn ymddangos ar frig y golofn hidlwyr ar yr ochr dde o dan y teitl Dewisiadau Cyfredol. I glirio'r rhain cliciwch ar yr opsiwn Clirio Dewisiadau ar waelod eich rhestr hidlwyr dethol.

Mae gen i restr hir o ganlyniadau, sut fedraf eu trefnu?

Gallwch drefnu'ch canlyniadau trwy:

  • Perthnasedd
  • Dyddiad-diweddaraf
  • Dyddiad-cynharaf
  • Teitl
  • Awdur

Cliciwch ar y saeth i lawr sydd i'r dde o'r opsiwn Trefnu Yn Ôl ar ben y golofn dde yn eich rhestr canlyniadau.

Perthnasedd yw’r drefn didoli ddiofyn.

Beth yw gorchmynion Boolean?

Gorchmynion yw'r rhain sy'n eich galluogi i gyfuno termau chwilio i ehangu neu gyfyngu eich chwiliad. Mae'r termau a gefnogir yn y Catalog hwn yn cynnwys A, NEU, NID a AGOS

  • Bydd A yn cyfuno dau neu fwy o eiriau allweddol, gan gyfyngu'ch chwiliad, er enghraifft: Bydd Hanes A Cymru yn dychwelyd canlyniadau sy'n cynnwys y ddau derm chwilio, ee Hanes Cymru
  • Bydd NEU yn dychwelyd canlyniadau gyda'r naill derm chwilio neu'r llall yn y teitl, gan ehangu'ch chwiliad, er enghraifft: Bydd Hanes NEU Cymru yn dychwelyd canlyniadau gan gynwys Hanes Cymru a Hanes Plwyf Ffestiniog
  • Bydd NID yn hepgor term o'ch chwiliad, gan ei wneud yn fwy penodol, er enghraifft: Bydd Davies, John NID Hanes Cymru yn dychwelyd rhestr o weithiau gan John Davies heblaw am Hanes Cymru.
  • Bydd AGOS yn creu rhestr o ganlyniadau lle mae'r termau o fewn pump gair i'w gilydd, er enghraifft: Bydd Chwyldro AGOS Cymru yn dychwelyd canlyniadau gan gynwys Dylanwad y Chwyldro Ffrengig ar Lenyddiaeth Cymru

Sut mae defnyddio nodchwilwyr (wild cards) a thalfyriadau wrth chwilio?

Defynddir nodchwilwyr yn lle llythrennau coll. Maent yn ddefnyddiol wrth chwilio am sillafiadau gwahanol.

  • Defnyddiwch ? i nodi sawl llythyren sydd ar goll; defnyddiwch un ? ar gyfer pob llythyren coll, er enghraifft: Bydd tr?n yn canfod trên ond nid troeon

  • Defnyddiwch * i gynrychioli nifer amhenodol o lythrennau coll, er enghraifft: Bydd tr*n yn dod o hyd i trên neu troeon ayb.

  • Gallwch ddefnyddio talfyriadau ar ddechrau neu ar ddiwedd geiriau, er enghraifft: Bydd llyf* yn dod o hyd i llyfrgell, llyfrgellydd, ayb. Dim ond llyfr a ddychwelir wrth ddefnyddio llyf? Daw *oes o hyd i coes, croes, Tre-groes, ayb.

Rwy'n gwybod bod eitem ar gael yn y Llyfrgell ond ni allaf ddod o hyd iddi, beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych chi'n ymwybodol bod eitem benodol yn y casgliad, ond ni allwch ddod o hyd iddi ar y Catalog, gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i wneud cais nad yw yn y Catalog.


Chwiliad Uwch

Sut fedraf ddefnyddio'r chwiliad uwch?

Cliciwch ar y ddolen i'r dde o brif flwch chwilio’r Catalog. Dewiswch un o'r opsiynau Chwilio i gyfyngu'ch chwiliad. Y dewisiad diofyn yw Yn Y Llyfrgell (chwilio casgliadau LlGC yn unig). Defnyddiwch y ddewislen Teitl i fireinio eich chwiliad ee os ydych chi'n gwybod y teitl neu'r awdur, dewiswch yr opsiwn perthnasol a rhowch eich term chwilio yn y blwch ar y dde. Gallwch ddefnyddio sawl un o’r blychau chwilio os ydych chi'n gwybod, er enghraifft, y teitl a'r awdur. Gallwch ddefnyddio'r opsiynau ar y dde os ydych chi'n gwybod, er enghraifft, y flwyddyn, neu'r math o ddeunydd y mae gennych ddiddordeb ynddo. Unwaith y byddwch wedi ychwanegu eich termau chwilio, bydd y testun Chwilio yn ymddangos yng nghornel dde isaf y blwch - cliciwch hwn i chwilio. Bydd eich canlyniadau yn ymddangos o dan y blwch.