Chwilio'r mapiau degwm
Chwiliwch drwy'r casgliad mapiau degwm am ddim. Gallwch weld y rhestrau penu a'r mapiau ynghyd â map cyfansawdd o Gymru trwy'r mapiau degwm.
Chwiliwch drwy'r casgliad mapiau degwm am ddim. Gallwch weld y rhestrau penu a'r mapiau ynghyd â map cyfansawdd o Gymru trwy'r mapiau degwm.
Cymudo’r degwm oedd yr enw ar y broses o gyfnewid taliadau mewn nwyddau am daliad ariannol. Lluniwyd Deddf Cymudo’r Degwm er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd yn sydyn ar hyd a lled y wlad.
Roedd y degwm yn dal i fod yn daladwy ym mhob plwyf yng Nghymru bron (ac yn y mwyafrif o blwyfi yn Lloegr hefyd) yn 1836. Roedd dechrau’r 19eg ganrif yn gyfnod o ddiwygio mawr yn wleidyddol, yn gymdeithasol ac economaidd. Roedd galw cynyddol am Gymudo’r Degwm (bu rhai diwygwyr yn ymgyrchu i ddiddymu’r degwm yn gyfan gwbl) ac yn 1836 bu i lywodraeth y dydd lywio Mesur Cymudo’r Degwm drwy’r Senedd yn llwyddiannus. Derbyniodd y Ddeddf Gydnabyddiaeth Brenhinol ar 13 Awst 1836.
Sefydlwyd y Comisiwn Degwm gan Ddeddf 1836; fe’i rheolwyd gan 3 Comisiynydd yn Llundain:
William Balmire oedd y cadeirydd. Ffermwr o Cumberland ydoedd a bu’n rhaid iddo ymddiswyddo fel AS wedi iddo gael ei benodi i’r Comisiwn. Y Parch Richard Jones oedd enwebiad Archesgob Caergaint.
Rhai o dasgau cyntaf y Comisiynwyr oedd canfod ym mhle roedd cymudo eisoes wedi digwydd, a hefyd sefydlu ffiniau pob uned lle talwyd y degymau ar wahân. Galwyd yr uned hon yn ardal ddegwm er mwyn gwahaniaethu rhyngddi â phlwyf neu drefgordd. Cyfeiriwyd yr ymholiadau at bob plwyf neu drefgordd a restrwyd ar y ffurflenni cyfrifiad. Gellir canfod canlyniadau’r ymholiadau hyn yn Ffeiliau’r Degwm (Dosbarth IR18 yn yr Archifdy Gwladol).
Mae yna 1,132 o Ffeiliau Degwm ar gyfer Cymru ac maent yn cynnwys pob ardal yng Nghymru, nid yn unig y llefydd hynny lle’r oedd y degymau yn parhau i gael eu talu yn 1836. Plwyfi yw ardaloedd degwm fel arfer, ond mae lleiafrif ohonynt yn drefgorddau; mae rhai yn gapeliaethau, pentrefannau, neu fannau amhlwyfol, gyda nifer ohonynt yn mwynhau statws ar wahân at ddibenion cymudo’r degwm yn unig.
Yng Nghymru dim ond 41 o ffeiliau sydd heb fap degwm yn cyfateb iddynt. O’r rhain, mae 5 yn cyfeirio at ffeiliau dyblyg o dan enwau eraill yn yr un ardal; mae 9 yn cyfeirio at ardaloedd a gynhwyswyd eisoes mewn ardaloedd degwm eraill. Felly mae 14 o’r 41 o ffeiliau heb fod yn cyfeirio at ardaloedd degwm penodol.
O’r 27 o ardaloedd degwm eraill na pharatowyd map ar eu cyfer, cawn fod y degwm yn Ifton (Sir Fynwy) wedi’i gymudo pan gaewyd y tir yn 1776. Mewn 11 ardal arall cafodd yr holl rhent-dâl degwm ei gyfuno cyn y dosraniad ac mae’r 15 sy’n weddill yn perthyn i ardaloedd lle nad oedd degwm yn cael ei dalu yn 1836 ac a oedd fwy na thebyg wastad wedi bod yn rhydd o’r degwm. Roedd 9 o’r rhain yn ardaloedd amhlwyfol bach iawn ac roedd 6 ohonynt yn arfer bod yn diroedd mynachlogydd. Paratowyd datganiadau cydsoddiad ar gyfer yr ardaloedd hyn hefyd er mwyn gwneud y sefyllfa’n rheolaidd.
Disgrifiwyd cynnwys y ffeiliau hyn yn fanwl yn Kain (1986).
Roedd yna 2 ran benodol i’r broses o gymudo; y cyntaf oedd pennu asesiad cyffredinol ar gyfer yr ardal ddegwm ac yn ail, dosrannu rhent-dâl y degwm ar eiddo unigol.
Cofnodwyd y dosraniad ar fap ac mewn atodlen ysgrifenedig. Mae’r mapiau a’r atodlenni hyn gyda’i gilydd yn ffurfio’r hyn y mae’r haneswyr yn arfer ei alw’n ‘arolwg degwm y plwyf’. Pwrpas hanfodol arolwg oedd darparu mesur cywir o faint pob darn o dir neu ardal ddegwm mewn erwau, a chofnodi sut y gwelwyd bod y tir yn cael ei ddefnyddio.
Roedd Deddf y Degwm yn darparu ar gyfer gwneud copi gwreiddiol a 2 gopi arall o bob offeryn dosrannu a gadarnhawyd; seliwyd pob un ohonynt a’u llofnodi gan y Comisiynwyr. Cadwyd y copïau gwreiddiol dan ofal y Comisiynwyr ac maent erbyn hyn yn yr Archifdy Gwladol. Mae’r casgliad yn gyflawn.
Rhoddwyd y copïau i: