Symud i'r prif gynnwys

Dan y gyfraith, rhaid i gyhoeddwyr pob cyhoeddiad print yn y Deyrnas Unedig roi copi i’r Llyfrgell Brydeinig, ac i bum llyfrgell fawr arall sy’n gofyn amdano. Adnau cyfreithiol yw’r enw ar y drefn hon a bu’n rhan o gyfraith Lloegr er 1662.

O 6 Ebrill 2013, mae adnau cyfreithiol hefyd yn cynnwys deunydd a gyhoeddir yn electronig, fel y gall y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol gynnal casgliad cenedlaethol o e-gylchgronau, e-lyfrau, newyddion, cylchgronau a mathau eraill o gynnwys a gyhoeddir yn ddigidol.

Mae Rheoliadau Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol (Gweithiau Di-Brint) 2013 yn berthnasol i unrhyw waith a gyhoeddir mewn cyfryngau all-lein (ar CD-ROM, microffurf ac ati) yn y Deyrnas Unedig, ac i unrhyw waith a gyhoeddir ar-lein:

“(a) os yw ar gael i’r cyhoedd o wefan ag enw parth sy’n perthyn i’r Deyrnas Unedig neu i le o fewn y Deyrnas Unedig; neu

(b) os yw ar gael i’r cyhoedd gan berson a bod unrhyw rai o weithgareddau’r person hwnnw yng nghyswllt creu neu gyhoeddi’r gwaith yn digwydd o fewn y Deyrnas Unedig.”

ond heb gynnwys gweithiau sydd ddim ond ar gael i bobl y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Dehonglir cymal (a), sy’n cyfeirio at wefan ag enw parth sy’n perthyn i’r Deyrnas Unedig neu i le o fewn y Deyrnas Unedig, fel ei fod yn cynnwys pob gwefan .uk, ynghyd â gwefannau mewn parthau a allai fod yn rhai lefel uchaf ddaearyddol yn y dyfodol sy’n berthnasol i’r Deyrnas Unedig fel .scotland, .cymru neu .london.  Ond ni ddehonglir ei fod yn cynnwys gwefannau y mae eu henw parth yn crybwyll lle yn y Deyrnas Unedig o fewn parth lefel uchaf generig neu barth lefel uchaf daearyddol gwlad arall, fel, er enghraifft ddamcaniaethol, www.oxford.com neu www.london.tv.  Fydd gweithiau sydd ar gael i’r cyhoedd o wefannau o’r fath, neu o wefannau eraill nad yw eu henw parth yn crybwyll enw lle yn y Deyrnas Unedig, ddim ond yn cael eu trin fel pe baent wedi’u cyhoeddi yn y Deyrnas Unedig os yw rhan (b) yn wir.

Mae’r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol yn rhagweld dau brif senario, lle gallai rhan (b) fod yn berthnasol:

  • Ar gyfer gweithiau sydd y tu ôl i gyfleuster mewngofnodi ac wedi’u cynaeafu gan lyfrgell adnau neu weithiau a ddanfonir i lyfrgell adnau gan y cyhoeddwr – h.y. yn amodol ar Reoliad 16 – bydd proses ymgysylltu rhwng y cyhoeddwr a llyfrgell adnau. Fel rhan o’r ymgysylltu hwn, byddai llyfrgelloedd adnau fel rheol yn disgwyl trafod a chytuno gyda’r cyhoeddwr rychwant y gweithiau a gaiff eu cynaeafu neu y dylid eu cyflwyno. Yn y senario hwn, mae’r llyfrgelloedd adnau’n disgwyl diffinio’r rhychwant yn ôl a ddigwyddodd rhan sylweddol (h.y. nid mân ran) o greu’r gwaith, neu’r penderfyniad golygyddol i gyhoeddi’r gwaith, yn y Deyrnas Unedig.
  • Pan fydd llyfrgell adnau’n archifo copïau o ddeunydd perthnasol o’r we agored, dan effaith gyfunol Rheoliadau 13(3) a 18(3), defnyddir proses cywain awtomatig. Er y bydd y meddalwedd cywain yn ei gyflwyno’i hun i weinydd y wefan, fel rheol nid yw’n debygol y bydd cyfle i gael dialogau ar wahân rhwng y llyfrgell adnau a phob cyhoeddwr unigol. Yn y senario hwn, bydd y llyfrgelloedd adnau’n defnyddio amrywiaeth o dechnegau mewn ymdrech i adnabod gwefannau a gyhoeddir yn y Deyrnas Unedig, ac yn gweithredu polisi hysbysu a thynnu i lawr ar gyfer unrhyw ddeunydd a gaiff ei gopïo ar gam.