Symud i'r prif gynnwys

Dan y gyfraith, rhaid i gyhoeddwyr pob cyhoeddiad print yn y Deyrnas Unedig roi copi i’r Llyfrgell Brydeinig, ac i bum llyfrgell fawr arall sy’n gofyn amdano. Adnau cyfreithiol yw’r enw ar y drefn hon a bu’n rhan o gyfraith Lloegr er 1662.

O 6 Ebrill 2013, mae adnau cyfreithiol hefyd yn cynnwys deunydd a gyhoeddir yn electronig, fel y gall y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol gynnal casgliad cenedlaethol o e-gylchgronau, e-lyfrau, newyddion, cylchgronau a mathau eraill o gynnwys a gyhoeddir yn ddigidol.

Beth sydd angen i mi ei wneud fel cyhoeddwr?

Dim byd eto. Os ydych eisoes yn adneuo cyhoeddiadau print, daliwch i wneud hynny nes bydd y Llyfrgell Brydeinig neu lyfrgell adnau cyfreithiol arall yn cysylltu â chi.

  • Os yw eich cynnwys electronig ar gael i bawb ar y we, heb unrhyw ofyniad i ddefnyddwyr fewngofnodi na thalu, bydd y Llyfrgell Brydeinig yn ceisio’i archifo’n uniongyrchol drwy broses cywain.
  • Os yw eich cynnwys electronig yn gofyn am gyfrinair, tanysgrifiad neu dâl, bydd y Llyfrgell Brydeinig neu lyfrgell adnau cyfreithiol arall yn cysylltu â chi cyn gynted ag y byddwn yn barod i ddechrau prosesu eich deunydd. Gweler: Amcanion casglu am 2013-14.

Hoffwn ddechrau adneuo’n electronig nawr. Beth alla i ei wneud?

Efallai na fyddwn yn barod i brosesu eich cynnwys eto oherwydd cyfyngiadau technegol neu oherwydd ein hystyriaethau ariannol a gweithredol ein hunain, ond fe geisiwn ateb eich cais os yw’n bosibl o gwbl. Dylech wneud un o’r ddau beth isod:

  • Cyflwyno cais cofrestru i ddefnyddio’r Porth Adneuo, neu
  • Cysylltu â’r Llyfrgell Brydeinig i drafod opsiynau eraill:
    Ffôn: +44 (0)1937 546060 (Gwasanaethau Cwsmeriaid)
    Ebost: Customer-Services@bl.uk

A fydd cynnwys a gaiff ei gasglu a’i archifo gan y llyfrgelloedd adnau cyfreithiol ar gael ar y rhyngrwyd?

Na fydd. Dim ond yn adeiladau’r llyfrgelloedd adnau cyfreithiol y gellir cael mynediad at gynnwys a gasglwyd drwy adnau cyfreithiol digidol, ac nid yw copïo digidol, gan gynnwys ‘copïo a gludo’, yn bosibl. Gweler: Mynediad i ddefnyddwyr at gyhoeddiadau electronig a adneuir

Oes rhaid imi adneuo cyhoeddiadau electronig a gyhoeddwyd cyn Rheoliadau 2013?

Nac oes; dim ond ar gyfer gwefannau a chyhoeddiadau electronig a ddarparwyd ar ôl 6 Ebrill 2013 y mae’r Rheoliadau’n berthnasol, ac mae rhai Rheoliadau sydd ddim ond yn berthnasol i fusnesau newydd a micro-fusnesau wedi 31 Mawrth 2014. Serch hynny, hoffai’r Llyfrgell Brydeinig a’r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol annog cyhoeddwyr i ystyried adneuo eu ‘hôl-gatalog’ o gyhoeddiadau electronig lle bo modd, er mwyn sicrhau eu bod wedi’u harchifo hyd dragwyddoldeb o fewn y casgliad cenedlaethol.

Sut mae penderfynu bod gwefan neu gyhoeddiad electronig yn un sy’n perthyn i’r Deyrnas Unedig?

Mae Rheoliadau 2013 yn diffinio’r modd y mae’n rhaid i ddeunydd perthnasol fod yn “gysylltiedig â’r Deyrnas Unedig”. Mae’r Cyd Bwyllgor ar Adnau Cyfreithiol wedi cytuno sut y bydd y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol yn dehongli ac yn gweithredu’r Rheoliadau hyn. Gweler: Adnabod gwefannau a chyhoeddiadau electronig y Deyrnas Unedig

A ydyw adnau cyfreithiol yn berthnasol i ddeunydd clyweledol?

Nid yw adnau cyfreithiol yn cynnwys ffilmiau sinema na recordiadau cerddoriaeth, er bod y Rheoliadau yn cynnwys cerddoriaeth, sain a fideo a gynhwysir o fewn cyhoeddiadau eraill. Am fanylion pellach, gweler: Recordiadau Sain a Ffilm