Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Dan y gyfraith, rhaid i gyhoeddwyr pob cyhoeddiad print yn y Deyrnas Unedig roi copi i’r Llyfrgell Brydeinig, ac i bum llyfrgell fawr arall sy’n gofyn amdano. Adnau cyfreithiol yw’r enw ar y drefn hon a bu’n rhan o gyfraith Lloegr er 1662.
O 6 Ebrill 2013, mae adneuo cyfreithiol hefyd yn cynnwys deunydd a gyhoeddir yn electronig, fel y gall y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol gynnal casgliad cenedlaethol o e-gylchgronau, e-lyfrau, newyddion, cylchgronau a mathau eraill o gynnwys a gyhoeddir yn ddigidol.
Pryder cyffredin yn ymatebion y cyhoeddwyr i ymgynghoriad y Llywodraeth ynghylch adneuo cyfreithiol di-brint oedd diogelwch gweithiau a adneuir dan y Rheoliadau. Mae’r llyfrgelloedd adneuo wedi llofnodi ymgymeriad ar y cyd i’r Cyd Bwyllgor ar Adneuo Cyfreithiol sy’n cynnwys ystod o ymrwymiadau ynglŷn â diogelwch cyhoeddiadau di-brint a adneuir a mecanweithiau sicrwydd priodol.
Gweler: Ymgymeriad ar y Cyd ynghylch Diogelwch adnau cyfreithiol
Mae’r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol wedi sefydlu seilwaith technegol ar y cyd ar gyfer adneuo cyfreithiol di-brint. Mae hwn yn seiliedig ar y System Lyfrgell Ddigidol a ddatblygwyd gyntaf gan y Llyfrgell Brydeinig ac a gefnogir nawr mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol yr Alban a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gyda chyfraniad ariannol gan Lyfrgell Bodleian Rhydychen, Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt a Llyfrgell Coleg y Drindod Dulyn.
Cynhelir y Cyd Seilwaith Technegol mewn amgylchedd diogel, a gwarchodir cysylltiadau rhwydwaith gan waliau tân a systemau atal firws, heb ddim mynediad i’r cyhoedd drwy’r rhyngrwyd.
Caiff gweithiau a adneuir eu storio yn y Cyd Seilwaith Technegol hwn, sy’n cynnwys pedair storfa ar hyn o bryd, wedi’u lleoli yn St Pancras, Boston Spa, Aberystwyth a Chaeredin. Mae pob storfa’n dal copi llawn o’r holl ddeunyddiau sydd wedi’u cadw yn y system. Mae’r storfeydd yn cyfathrebu â’i gilydd drwy’r amser ar draws rhwydwaith diogel, gyda gweithdrefnau awtomatig ar gyfer hunan-wirio, atgynhyrchu ac atgyweirio; os caiff ffeil ddigidol a storiwyd yn un o’r storfeydd ei llygru neu ei cholli, caiff ei hadfer yn awtomatig o un o’r storfeydd eraill. At hynny, mae pob storfa hefyd yn defnyddio trefniant technegol sy’n copïo ac yn storio’r ffeiliau ar ddwy neu ragor o ddisgiau corfforol, gyda hunan-wirio a dyblygu’n digwydd rhwng y disgiau.
Amcan y mesurau hyn yw sicrhau bod y system yn eithriadol o wydn ac y gall gadw cynnwys am flynyddoedd lawer. Mae’r system wedi’i dylunio hefyd i fod yn ddiogel ac mae’n cyflawni gofynion y Rheoliadau; mae system reoli hawliau digidol yn atal copïo digidol ac yn sicrhau na all gwaith a adneuwyd gael ei ddangos ar fwy nag un cyfrifiadur ar y tro ym mhob llyfrgell adnau cyfreithiol.
Caiff gwybodaeth lyfryddol ddisgrifiadol (metadata) ei storio yn y Cyd Seilwaith Technegol hefyd. Allforir copïau o’r metadata, wedi’u diweddaru bob hyn a hyn yn ôl y gofyn, i gatalog neu system ddarganfod adnoddau pob llyfrgell. Bydd defnyddwyr pob llyfrgell adnau’n gallu nodi deunydd adnau cyfreithiol o fewn casgliadau’r llyfrgell a chyflwyno cais i’w ddefnyddio. I ddefnyddwyr y Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ceir mynediad at y deunydd drwy’r storfa leol; bydd darllenwyr yn Rhydychen, Caergrawnt neu Ddulyn yn cysylltu ag un o storfeydd y Llyfrgell Brydeinig drwy rwydwaith diogel er mwyn gweld y deunydd. Ym mhob amgylchiad, rheolir mynediad gan fodiwl polisi digidol cyffredinol sy’n rheoli pob defnydd o ddeunydd ac sy’n gweithio drwy system bori ben bwrdd bell wedi’i diogelu.