Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Dan y gyfraith, rhaid i gyhoeddwyr pob cyhoeddiad print yn y Deyrnas Unedig roi copi i’r Llyfrgell Brydeinig, ac i bum llyfrgell fawr arall sy’n gofyn amdano. Adnau cyfreithiol yw’r enw ar y drefn hon a bu’n rhan o gyfraith Lloegr er 1662.
O 6 Ebrill 2013, mae adneuo cyfreithiol hefyd yn cynnwys deunydd a gyhoeddir yn electronig, fel y gall y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol gynnal casgliad cenedlaethol o e-gylchgronau, e-lyfrau, newyddion, cylchgronau a mathau eraill o gynnwys a gyhoeddir yn ddigidol.
Ac eithrio tan 31 Mawrth 2014 ar gyfer gweithiau a gyhoeddir gan fusnesau newydd neu ficro-fusnesau sy’n cyflogi llai na 10 o bobl, mae gan y Llyfrgell Brydeinig hawl i dderbyn, yn ddi-dâl, un copi o bob gwaith a gyhoeddwyd neu a ddosbarthwyd yn y Deyrnas Unedig, o fewn mis i ddyddiad ei gyhoeddi. Rhaid i’r copi a adneuir fod o’r ansawdd mwyaf addas ar gyfer cadw’r gwaith. Bydd y Llyfrgell Brydeinig yn cyhoeddi derbynneb am bob gwaith a adneuir.
Ar gyfer gweithiau sydd yr un fath o ran sylwedd ond a gyhoeddir mewn cyfryngau print ac electronig, dim ond un cyfrwng sydd angen ei adneuo; dylai cyhoeddwr barhau i adneuo print, nes bydd y cyhoeddwr a’r llyfrgelloedd adnau ill dau wedi cytuno i drosglwyddo i adneuo’n electronig.
Ar gyfer cyhoeddiadau electronig mewn mwy nag un fformat, efallai y bydd angen cytuno pa fformat y dylid ei adneuo.
Rhaid i gyhoeddwr hefyd gyflwyno copi o unrhyw raglenni cyfrifiadur, yn cynnwys offer, llawlyfrau a gwybodaeth – fel metadata, manylion mewngofnodi, a modd i ddileu mesurau gwarchodaeth technegol DRM unigol – sy’n angenrheidiol er mwyn defnyddio a chadw’r cyhoeddiad. Mae gan y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol drefniadau diogelwch ar wahân yn cyfyngu’r defnydd o ddeunydd a adneuir i’r gweithgareddau a ganiateir gan Reoliadau Llyfrgelloedd Adneuo Cyfreithiol (Gweithiau Di-Brint) 2013 yn unig.
Dylai copïau i’r Llyfrgell Brydeinig gael eu danfon i’r:
Digital Processing Team
The British Library
Boston Spa
Wetherby
West Yorkshire
LS23 7BY
Ffôn:+44 (0)1937 546060 (Gwasanaethau Cwsmeriaid)
Ebost:Customer-Services@bl.uk
Ac eithrio tan 31 Mawrth 2014 ar gyfer gweithiau a gyhoeddir gan fusnesau newydd neu ficro-fusnesau sy’n cyflogi llai na 10 o bobl, mae gan Lyfrgelloedd Bodleian, Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Coleg y Drindod Dulyn bob un hawl i dderbyn, yn ddi-dâl, un copi o bob gwaith a gyhoeddwyd neu a ddosbarthwyd yn y Deyrnas Unedig y gwnânt gais amdano.
Rhaid i’r copïau i’r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol hyn gael eu danfon i gyfeiriad penodol. Ers blynyddoedd bellach maent wedi rhannu asiant ar gyfer gofyn am a derbyn gweithiau a adneuir:
The Agent
Agency for the Legal Deposit Libraries
161 Causewayside
Edinburgh
EH9 1PH
Ffôn: +44 (0)131 623 4680