Symud i'r prif gynnwys

Teitl Prosiect: The National Library of Wales and National Identity, c.1840-1916

Dyddiadau: 2013-2017

Ymchwilydd: Dr Calista Williams

Partner academaidd: Yr Adran Hanes, Y Brifysgol Agored,, Milton Keynes

Goruchwylwyr: Yr Athro Paul Lawrence (Pennaeth Hanes, Y Brifysgol Agored)
Yr Athro Lorna Hughes (Cadair Prifysgol Cymru mewn Casgliadau Digidol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Nawdd: Cyngor Ymchwil y Dyniaethau a Chelfyddydau
 
Amlinelliad o’r prosiect:

Roedd y prosiect hwn yn gwerthuso Llyfrgell Genedlaethol Cymru o’i chsyniadaeth i’w gwireddiad. Mae'n ychwanegu at y wybodaeth gyfyngiedig sy’n bodoli am y llyfrgell trwy ei gosod o fewn i  amgylchedd wleidyddol a diwylliannol y tarddodd ohoni, gan godi cwestiynau newydd am ei pherthynas â hunaniaeth genedlaethol Gymreig. Mae’r thesis yn archwilio galwadau cynnar am Lyfrgell Genedlaethol ac yn trafod pam fod yr ymgyrch wedi gwneud cynnydd arwyddocaol o’r 1890au ymlaen. Mae’n dadansoddi’r ymgais i hel tanysgrifwyr i gronfa adeilad y llyfrgell a chwestiynu a oedd yr ymgyrch yn ganlyniad mudiad mas neu grwp o elîtiau. Mae ail hanes yn thesis yn dadansoddi polisi pwrcasu’r llyfrgell ac yn cymharu’r weledigaeth hon gyda gwasanaethau’r llyfrgell a ddefnyddiwyd gan dri grwp defnyddwyr: defnyddwyr yr ystafelloedd darllen, mynychwyr dosbarthiadau tiwtorial, a charcharorion gwersyll Ruhleben. Daw’r thesis i derfyn gydag asesiad o ddatblygiad a rol y Llyfrgell fel elfen allweddol o adeiladu’r genedl Gymreig ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.
 
Yn ystod y prosiect, cyflwynodd Calista Williams ei hymchwil mewn amryw gynadleddau gan gynnwys Cynhadledd Reading Communities (Senate House: London, 2016); Cynhadledd y North American Association for the Study of Welsh Culture and History (Harvard, 2016); Cynhadledd The Society for the History of Authorship, Reading and Publishing (Montreal, 2015), yn ogystal â sgyrsiau cyhoeddus yn Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn 2015 gwobrwywyd Calista gyda’r James Ollè Award gan Grwp Hanes Llyfrgelloedd a Gwybodaeth (the Library and Information History Group).
 
Erthyglau papur newydd:
 
Welsh Women’s History Month
‘Distinguished careers unfold as university and library enriched the lives of women’. Erthygl yn archwilio effaith mynediad cyfartal i addysg uwch ac adnoddau llyfrgell ar fenywod yng Nghymru ar ddechrau’r ugeinfed ganrif (Western Mail – 2017)
 
Welsh History Month – The History of Wales in 100 Pictures
Tair erthygl ar y thema o ‘Ddysgu’ a oedd yn ffocysu ar y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Genedlaethol Sain Ffagan a dathliadau Gwyl Ddewi mewn ysgolion (Western Mail – 2014)
 
Mae Calista nawr yn gweithio fel Athrawes Dyniaethau yn Adran Addysg a Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hefyd yn fentor i wirfoddolwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n golygu cefnogi gwirfoddolwyr gyda thasgau perthnasol i ymchwil.