Data LlGC > Cofnodion Llongau Aberystwyth

Nôl i'r rhestr o Setiau Data

Set Data:COFNODION LLONGAU ABERYSTWYTH
Disgrifiad:Cyfrifon criw a chytundebau (a elwir yn gyffredinol yn rhestrau criw), 1856-1914, ar gyfer llongau a gofrestrwyd ym mhorthladd Aberystwyth, Ceredigion, Cymru, DU.
Côd:lla (côd unigryw ar gyfer y set data yma ar Data LlGC)
Fersiwn Diweddaraf:v0.1 (06-07-2015) [Dim fersiynau blaenorol]
Trwydded:Parth Cyhoeddus (CC0)
Engrheifftiau:Llyfr Log Engrheifftiol (PDF) (Excel)
Dogfennaeth:Disgrifiad o strwythyr y ffeil data (PDF)
LAWRLWYTHO (trwy GitHub)ffeil .zip sy'n cynnwys nifer o ffeiliau Microsoft Excel (104 MB)

Trawsgrifiwyd y set data gan wirfoddolwyr fel rhan o Raglen Gwirfoddoli Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mwy am y set data yma

Beth yw'r data?

Mae’r data'n drawsgrifiad o gyfrifon criw a chytundebau (a adnabyddir fel arfer yn rhestrau criw), 1856-1914, ar gyfer llongau a gofrestrwyd ym mhorthladd Aberystwyth, Ceredigion, Cymru, DU.

Pam mae’r cofnodion yma’n bodoli?

Yn unol â Deddf Llongau Masnachol 1835, roedd gofyn i’r holl longau 80 tunnell neu fwy a gofrestrwyd ym Mhrydain ac a oedd yn gweithio yn y fasnach arfordirol neu bysgota, gario cytundebau criw a chyfrifon, y cyfeirir atynt fel arfer fel rhestrau criw. Ar ddiwedd pob mordaith anfonai’r meistr y rhestrau criw yma at Gofrestrydd Cyffredinol Llongau a Morwyr drwy Swyddfeydd y Llynges Fasnachol a leolwyd mewn porthladdoedd mawr a bach. Roedd yn ofynnol i restrau criw’r fasnach gartref (h.y. llongau a hwyliai yn nyfroedd arfordirol Prydain, a ddiffiniwyd fel y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, a chyfandir Ewrop o’r Afon Elbe yn yr Almaen i Brest yn Ffrainc) gael eu cyflwyno bob chwe mis. Roedd yn rhaid cyflwyno un rhestr briodol am bob mordaith y tu allan i ddyfroedd arfordirol Prydain i Swyddfa’r Llynges Fasnachol.

Pa wybodaeth sydd ynddynt?

Mae rhestrau criw (y cyfeirir atynt yn y catalog fel cytundebau a chyfrifon) yn cynnwys enwau llawn y criw, gan gynnwys prentisiaid, oedran a man geni, llongau blaenorol, dyddiadau ymuno a gadael, manylion cyflogaeth, ynghyd â rhestr o deithiau gyda dyddiadau, ac yn achlysurol ceir manylion y cargo a gariwyd. Roedd yn ofynnol i bob meistr gadw llyfr log swyddogol hefyd. Ni ddylid cymysgu’r rhain â llyfrau log morlywio neu ddyddiaduron dyddiol gan eu bod yn cofnodi damweiniau, salwch, genedigaeth neu farwolaeth ar fwrdd y llong, camymddwyn, ffoi, cosb a chofnodion eraill yn ymwneud ag ymddygiad aelodau criw. Pan fyddai llong yn hwylio’n bennaf yn nyfroedd Prydain, ond yn gwneud ambell fordaith dramor, efallai y byddai dwy restr a chytundebau ar gyfer yr un cyfnod, yn ogystal â llyfrau log. 

Byddai conswl Prydeinig yn cymeradwyo’r rhestrau criw (cytundebau) a llyfrau log ym mhob porthladd y byddai’r llong yn galw ynddynt, ac yn cofnodi unrhyw newidiadau i’r criw, unrhyw un a oedd wedi ffoi neu faterion disgyblu.

O 1855 rhoddwyd rhif swyddogol unigryw i longau Prydeinig wrth iddynt gofrestru am y tro cyntaf mewn Porthladd Cofrestri dynodedig. Arhosai’r rhif yma gyda'r llong am byth, hyd yn oed os byddai’r llong yn ail-gofrestru neu’n newid ei henw. Roedd porthladd Aberystwyth, a oedd yn gyfrifol am gofrestru cychod yn ardal Bae Ceredigion o'r gogledd o Drefdraeth yn Sir Benfro i ran ddeheuol Sir Feirionnydd yn dosbarthu rhifau.