Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Dan y gyfraith, rhaid i gyhoeddwyr pob cyhoeddiad print yn y Deyrnas Unedig roi copi i’r Llyfrgell Brydeinig, ac i bum llyfrgell fawr arall sy’n gofyn amdano. Adnau cyfreithiol yw’r enw ar y drefn hon a bu’n rhan o gyfraith Lloegr er 1662.
O 6 Ebrill 2013, mae adneuo cyfreithiol hefyd yn cynnwys deunydd a gyhoeddir yn electronig, fel y gall y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol gynnal casgliad cenedlaethol o e-gylchgronau, e-lyfrau, newyddion, cylchgronau a mathau eraill o gynnwys a gyhoeddir yn ddigidol.
Dan adnau cyfreithiol, ni fydd gwefannau a chyhoeddiadau electronig a adneuwyd ar gael am o leiaf saith diwrnod ar ôl eu hadneuo neu eu cywain. Wedyn byddant ar gael i ddefnyddwyr y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol.
Mae Deddf Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol 2003 yn diffinio darllenydd fel “person sydd, i ddibenion ymchwilio neu astudio a chyda chaniatâd llyfrgell adneuo, yn adeilad y llyfrgell dan ei rheolaeth”, ac mae Rheoliadau Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol (Gweithiau Di-Brint) 2013 yn amlinellu’r telerau ar gyfer dangos gweithiau i ddarllenwyr “mewn adeiladau llyfrgell dan reolaeth y llyfrgell adnau”.
Mae hyn yn golygu na ellir rhoi gweithiau a adneuwyd ar gael ar-lein yn allanol, a hynny’n cynnwys i ddarllenwyr sy’n mewngofnodi o bell. Dim ond yn adeiladau’r chwe llyfrgell adnau a ddiffinnir yng nghymal 14 y Ddeddf y gellir eu gweld, ac, yn achos cyhoeddiadau cyfreithiol, yn llyfrgell y Faculty of Advocates.
Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi cadarnhau “nad yw’r Rheoliadau hyn yn niweidio’n afresymol fuddiannau pobl sy’n cyhoeddi gweithiau y mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy”. Mae ystyriaethau perthnasol yn cynnwys ehangder (h.y. nifer a lledaeniad) y lleoliadau lle ceir defnyddio deunydd a adneuwyd, a’r trefniadau diogelwch ar gyfer mynediad yn y lleoliadau hynny. Yn y cyswllt hwn, os cynigir unrhyw newid yn y dyfodol sydd, ym marn aelod o’r Cyd Bwyllgor ar Adneuo Cyfreithiol, yn debyg o beri niwed afresymol i fuddiannau cyhoeddwyr, bydd y Cyd Bwyllgor yn trafod y cynigion yn unol â’r broses ddatrys anghydfod ac, os yw’n briodol, bydd yn gofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol adolygu’r Rheoliadau.
Gallant, gall defnyddwyr ar-lein chwilio cofnodion catalog a nodi cynnwys a adneuwyd, ond dim ond o fewn adeiladau’r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol y gellir gweld y cynnwys ei hun.
Dywed Rheoliadau 2013 fod yn rhaid i lyfrgell adnau “sicrhau mai dim ond un derfynell gyfrifiadur sydd ar gael i ddarllenwyr gael mynediad at yr un deunydd perthnasol ar unrhyw un pryd”. Nid bwriad hyn yw cyfyngu defnydd pob deunydd adneuo cyfreithiol i un derfynell gyfrifiadur ym mhob llyfrgell adnau, ond yn hytrach i ddangos yr un gwaith unigol ar ddim ond un sgrin ar y tro – h.y. i un darllenydd ar y tro – ym mhob Llyfrgell Adnau Cyfreithiol.
Ar gyfer cyhoeddiadau cludadwy, mae cyfyngiad priodol ar fynediad oherwydd y cyfrwng corfforol y mae’r wybodaeth wedi’i chario arno, fel CD-ROM, cerdyn cof neu ficroffilm.
Ar gyfer cyhoeddiadau electronig eraill, fel rheol diffinnir gwaith unigol neu “yr un deunydd perthnasol” gan y modd y caiff ei gyhoeddi ar gyfer defnyddwyr, a’i dderbyn yn adnau. Er enghraifft, gellir cyhoeddi llyfr electronig naill ai fel un gwaith, neu fesul pennod. Lle bydd deunydd perthnasol wedi’i gyhoeddi – ac felly ei gynaeafu neu ei adneuo – fel un cyfansoddiad, ni fydd y llyfrgelloedd adnau ’n ei ddatgymalu’n elfennau ar wahân i ddibenion arddangos y rhannau ar wahanol sgriniau er mwyn i ragor o ddarllenwyr ei ddefnyddio. Yn yr un modd, lle bo deunydd perthnasol wedi’i gyhoeddi ar lefel fwy tameidiog, ni fydd y llyfrgelloedd adneuo’n casglu’r gwahanol elfennau ynghyd er mwyn adeiladu gwaith artiffisial. Er enghraifft, yn achos cylchgrawn electronig a gyhoeddwyd fel un rhifyn gan gynnwys nifer o erthyglau, byddai mynediad cydamserol wedi’i reoli ar lefel y rhifyn hwnnw; ond byddai mynediad cydamserol i gylchgrawn electronig a gyhoeddir fesul erthygl yn cael ei reoli ar lefel erthygl unigol.
Lle nad yw ffin “yr un deunydd perthnasol” yn amlwg yn syth, bydd y llyfrgelloedd adnau yn ei ddehongli fel y ffeil neu’r grŵp ffeiliau sydd eu hangen i gyfleu cynnwys penodol mewn modd cyflawn, cydlynol a dealladwy, ar yr amod bod modd technegol i amlinellu hyn. Ar gyfer deunydd ar y we, byddai hyn fel arfer yn golygu’r dudalen we (er enghraifft, erthygl newyddion) a ddangosid wedi i’r defnyddiwr ddilyn dolen neu fewnbynnu URL. Byddai hyn yn cynnwys deunydd wedi’i fewnblannu (ei “drawsgludo”) sy’n ymddangos yn yr un tab neu ffenestr â’i ddeunydd cyd-destunol. Ond byddai ffeil sydd wedi’i mewnblannu neu ei chysylltu ac sy’n dangos ei chynnwys, o’i hagor, mewn tab neu ffenestr ar wahân yn cael ei thrin fel rheol fel eitem ar wahân.
Mae’r rheoliadau’n caniatáu i ddefnyddwyr argraffu un copi o ran resymol o unrhyw waith a adneuwyd, at ddibenion ymchwil anfasnachol neu bwrpas diffiniedig arall megis beirniadaeth ac adolygu neu newyddiaduraeth; caniateir argraffu copïau ychwanegol i’w defnyddio mewn achosion llys neu ymchwiliadau statudol.