Yn gyffredinol, nod y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol yw sicrhau y caiff cyhoeddiadau’r genedl eu casglu’n systemataidd, ac mor gynhwysfawr ag sy’n bosibl, ond, at ddibenion ymarferol, gweithredir Rheoliadau Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol (Gweithiau Di-brint) 2013 yn raddol a fesul cam dros nifer o flynyddoedd. Bydd y cynlluniau datblygu casgliad am y ddwy flynedd gyntaf wedi i’r Rheoliadau ddod i rym yn Ebrill 2013 yn ymdrin â’r canlynol:
Yn ymarferol, mae’r rhan fwyaf o gyhoeddwyr gweithiau o’r fath eisoes wedi bod yn eu hadneuo dan god ymarfer gwirfoddol ers tro byd, dan ddarpariaethau tebyg i’r rhai a geir yn Rheoliadau 2013. Felly ni ragwelir fawr ddim effaith na newid ymarferol, ac eithrio newid o adnau gwirfoddol i statudol.
Ar ran y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol, bydd y Llyfrgell Brydeinig yn archifo copïau o wefannau a thudalennau ar y we sydd ar gael i bawb yn y Deyrnas Unedig o’r we agored, gan ddefnyddio proses gywain neu gynaeafu awtomatig.
Mae Rheoliadau 2013 yn rhagdybio cynaeafu gan y llyfrgell fel y modd cyflwyno diofyn, ond hefyd yn ymdrin â chytundebau rhwng cyhoeddwyr unigol a llyfrgelloedd ar gyfer cyflwyno mewn modd arall:
Mae’r Rheoliadau’n rhagdybio cywain gan y llyfrgell fel y modd cyflwyno diofyn, ond hefyd yn ymdrin â chytundebau rhwng cyhoeddwyr unigol a llyfrgelloedd ar gyfer cyflwyno mewn modd arall.
Mae’r Llyfrgell Brydeinig wedi datblygu proses beilot ar gyfer derbyn llyfrau i’w hadneuo wedi’u cyhoeddi yn fformat ePub; mae’n bwriadu cynyddu’r niferoedd yn ystod 2013-14. Gall cyhoeddwyr gytuno i ddanfon teitlau’n uniongyrchol i’r Llyfrgell Brydeinig, ar gyfer pob Llyfrgell Adnau Cyfreithiol, drwy’r porth adneuo diogel. Neu gallant awdurdodi eu dosbarthwr, cyfanwerthwr, manwerthwr neu drydydd parti arall i adneuo ar eu rhan.
Rhaid llusgo gwefannau sy’n newid neu’n diweddaru eu cynnwys yn fynych yn fwy rheolaidd ac amlach, hyd at unwaith y dydd, os am eu casglu drwy broses gywain. Fel y dywedwyd uchod, mae’r Llyfrgell Brydeinig yn disgwyl dewis rhyw 200-500 o wefannau o’r fath i ddechrau yn 2013-14, ar gyfer llusgo canolbwyntiol ar amledd sy’n briodol i amledd diweddaru’r cynnwys.
Fel mater arall, mae’r Llyfrgell Brydeinig a chynrychiolwyr y diwydiant cyhoeddi papurau newydd yn trafod mentrau posibl ar y cyd a allai gynnwys adneuo ac archifo newyddion a gyhoeddwyd yn ddigidol a chopïau o’r ffeiliau ‘PDF cyn argraffu’ a ddefnyddir i argraffu papurau newydd.
Cesglir mathau eraill o gyhoeddiad ar sail arbrofol, oddi wrth gyhoeddwyr unigol sy’n barod i gefnogi gwaith datblygu ar gyfleusterau derbyn awtomatig newydd neu well. Ond nid oes bwriad i ofyn i gyhoeddwyr am gyhoeddiadau o’r fath ar unrhyw raddfa yn ystod 2013-14.
Bydd y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol bob amser yn ceisio darparu ar gyfer cyhoeddwyr unigol a ddaw atynt i geisio cytundeb i ddechrau adneuo cyhoeddiadau electronig, ar yr amod fod y cynnwys o fath a fformat y gallant ei brosesu ac ar yr amod y caiff unrhyw drawsnewid o adneuo print i adneuo electronig (os yn berthnasol) ei gytuno a’i drefnu’n iawn. Fodd bynnag, efallai y bydd angen gohirio ceisiadau cyhoeddwyr unigol weithiau os na fydd y llyfrgelloedd yn gallu delio â’u cynnwys eto oherwydd cyfyngiadau technegol, anawsterau gweithredol (prosesu) neu ystyriaethau ariannol ac adnoddau.