Dan y gyfraith, rhaid i gyhoeddwyr pob cyhoeddiad print yn y Deyrnas Unedig roi copi i’r Llyfrgell Brydeinig, ac i bum llyfrgell fawr arall sy’n gofyn amdano. Adnau cyfreithiol yw’r enw ar y drefn hon a bu’n rhan o gyfraith Lloegr er 1662.
O 6 Ebrill 2013, mae adnau cyfreithiol hefyd yn cynnwys deunydd a gyhoeddir yn electronig, fel y gall y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol gynnal casgliad cenedlaethol o e-gylchgronau, e-lyfrau, newyddion, cylchgronau a mathau eraill o gynnwys a gyhoeddir yn ddigidol.
Mae gan y Llyfrgell Brydeinig a’r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol eraill hawl gyfreithiol i gasglu deunydd a gyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig sydd dan warchodaeth cyfrinair neu gyfleuster mewngofnodi drwy gynaeafu, yn amodol ar roi o leiaf 1 mis o rybudd ysgrifenedig i’r cyhoeddwr i ddarparu cyfrinair neu fanylion sicrhau mynediad.
Fel arall, trwy gytundeb, gall cyhoeddwr a llyfrgell adnau benderfynu defnyddio dull adneuo arall fel danfon gan y cyhoeddwr.
Dim byd eto. Os ydych eisoes yn adneuo cyhoeddiadau print, daliwch i wneud hynny nes bydd y Llyfrgell Brydeinig neu Lyfrgell Adnau Cyfreithiol arall yn cysylltu â chi.
Ar gyfer gweithiau a gyhoeddir mewn cyfryngau print a di-brint sydd yr un fath i bob pwrpas, dim ond un cyfrwng sydd angen ei adneuo; dylai cyhoeddwr barhau i adneuo print, nes bydd y cyhoeddwr a’r llyfrgelloedd adnau ill dau wedi cytuno i drosglwyddo i adneuo’n electronig.
Ar gyfer cyhoeddiadau electronig a gyhoeddir mewn mwy nag un fformat digidol, efallai y bydd angen cytuno pa fformat digidol y dylid ei adneuo. Ymhlith y fformatau a dderbynnir yn gyffredin mae XML, HTML, SGML, PDF, EPub, Microsoft Word ac RTF.
Dyma opsiynau:-
Rhaid i gyhoeddwr hefyd gyflwyno copi o unrhyw raglenni cyfrifiadur, yn cynnwys offer, llawlyfrau a gwybodaeth – fel metadata, manylion mewngofnodi, a modd i ddileu mesurau gwarchodaeth technegol DRM unigol – sy’n angenrheidiol er mwyn defnyddio a chadw’r cyhoeddiad. Mae gan y llyfrgelloedd adnau drefniadau diogelwch ar wahân yn cyfyngu’r defnydd o ddeunydd a adneuir i’r gweithgareddau a ganiateir gan Reoliadau Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol (Gweithiau Di-Brint) 2013 yn unig.
Beth sydd angen i gwmnïau newydd a micro-fusnesau ei wneud?
Tan 31 Mawrth 2014, bydd micro-fusnesau sy’n cyflogi llai na 10 o bobl a busnesau sy’n cychwyn o’r newydd wedi’u heithrio o’r Rheoliadau sy’n gofyn bod cyhoeddwr yn adneuo cyhoeddiadau all-lein neu’n darparu cyfrinair ar gyfer cynaeafu deunydd a warchodir i’r llyfrgell.
Am fanylion pellach cysyllter â’r:
Digital Processing Team
The British Library
Boston Spa
Wetherby
West Yorkshire
LS23 7BY
Ffôn: +44 (0)1937 546060 (Gwasanaethau Cwsmeriaid)