Symud i'r prif gynnwys

O 6 Ebrill 2013, mae adnau cyfreithiol yn cynnwys e-lyfrau, e-gylchgronau a mathau eraill o gyhoeddiad electronig, ynghyd â deunydd arall a ddarperir i’r cyhoedd yn y Deyrnas Unedig:

  • Ar ficroffilm
  • Ar gyfryngau cludadwy fel CD-ROM
  • Ar y we (yn cynnwys gwefannau)
  • Trwy lawrlwytho o wefan.

Ond nid yw’r Ddeddf a’r Rheoliadau’n berthnasol i’r canlynol:

  • Mewnrwyd
  • Ebost
  • Data personol cyfyngedig
  • Ffilmiau sinema a chyhoeddiadau cerddoriaeth wedi'i recordio, er bod y Rheoliadau yn berthnasol i gerddoriaeth, sain a fideo a geir o fewn cyhoeddiadau eraill.

Cynlluniau Casglu

Cynlluniau datblygu casgliadau Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol ar gyfer adnau cyfreithiol electronig yn 2013-14

Gwefannau

Trefniadau adnau cyfreithiol ar gyfer archifo gwefannau a chynaeafu copïau o dudalennau gwe a dogfennau o’r rhyngrwyd

Cyhoeddiadau Electronig

Adneuo e-lyfrau, e-gylchgronau a chyhoeddiadau electronig eraill

Cyhoeddiadau Cludadwy

Adneuo cyhoeddiadau ar gyfryngau cludadwy fel CD-ROM a microffilm

Diogelwch

Trefniadau diogelwch ar gyfer deunydd a adneuir

Mynediad i Ddefnyddwyr

Sut y sicrheir bod deunydd adnau cyfreithiol electronig ar gael i ymchwilwyr

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau cyffredin am adnau cyfreithiol i wefannau a chyhoeddiadau electronig