Peintiadau a Lluniadau
Cynnwys y casgliad hwn waith ar bapur a chynfas, gyda:
- 4000 o eitemau mewn ffrâm
- 8000 eitem wedi eu mowntio
- Dros 500 o Lyfrau Lluniadu (Drawing Volumes)
Mae’r casgliad sylweddol hwn yn cynnwys peintaidau gan feistri fel
- J M W Turner, (Melin Aberdulais a Chastell Dolbadarn) ymwelydd cyson â Chymru yn ystod ei yrfa
- Richard Wilson, arlunydd tirlun hynod bwysig a ddylanwadodd ar Turner a Constable
- Thomas Gainsborough, arlunydd tirlun a phortreadau enwog o’r 18fed ganrif
- Thomas Jones Pencerrig arlunydd tirluniau Cymreig o gryn dalent, disgybl i Wilson
- James Ward, arlunydd rhamantus o Loegr
Darganfuwyd Cymru am y tro cyntaf gan lawer o artistiaid blaenllaw yn ail hanner y 18fed ganrif. Adlewyrchir hyn yng nghasgliad dyfrliwiau’r Llyfrgell sydd yn cynnwys gwaith:
- Samuel Hieronymus Grimm a deithiodd drwy Gymru yn 1777 gan lunio ei olygfeydd Cymreig
- Thomas Pennant, Downing, Sir y Fflint, a gyhoeddodd hanes ei deithiau yng Nghymru a’r Alban 1772-1796. Gwelir copiau ysblennydd o’i gyfrolau yn y casgliad wedi eu darlunio gan Moses Griffith a John Ingleby
- Teithiodd Richard Colt-Hoare yn 1791 gan gofnodi safleoedd o ddiddordeb hynafol
- Cynnyrch ei deithiau yw lluniau Cymreig Thomas Rowlandson 1797
- John “Warwick” Smith, llywydd ‘The Old Watercolour Society’, a deithiodd yn rheolaidd drwy Gymru 1784-1804. Ceir dros 150 o’i luniau yn y casgliad
Arlunwyr Gwlad
Gwelir hefyd waith gan arlunwyr brodorol mwy traddodiadol megis
- Casgliad o bortreadau gan William Roos
- Hugh Hughes arlunydd portreadau â noddwyd gan y dosbarth canol yng Nghymru yn ystod 19eg ganrif
- Y Parchedig Evan Williams
- Y Parchedig Robert Hughes, Uwchlaw’r Ffynnon, Llŷn a ddechreuodd beintio yn 50 oed
Gwaith cyfoes
Mae’r gwaith cyfoes yn cynnwys arlunwyr fel
- Augustus John
- Gwen John
- David Jones
- Evan Walters
- John Elwyn
- Brenda Chamberlain
- John Piper
- Claudia Williams
- Gwilym Prichard
Kyffin Williams: Mae casgliad helaeth iawn o’i waith yn y Llyfrgell gan gynnwys ei beintaidau o Gymru, y Wladfa, darluniadau i’w lyfrau a caricatures.
Gallwch gael mynediad at y deunydd yma trwy chwilio ar y catalog arlein.