Mae’r siartiau morwrol (sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel siartiau morol neu hydrograffig) yn fapiau a fwriadwyd yn bennaf ar gyfer mordwyaeth. Dylent ddarparu gwybodaeth eglur, gywir a mor ddiweddar a phosib i forwyr er mwyn eu cynorthwyo i gynllunio, a mordwyo cwrs diogel.
Cynlluniwyd y siartiau hyn i fod yn ddogfennau gweithio; yn aml fe’u diwygiwyd ac ysgrifennwyd arnynt, ac fel arfer caent eu taflu pan oeddent wedi dyddio neu wedi eu difrodi. O ganlyniad i hyn maent llawer llai tebygol o oroesi na mapiau cyffredin.
Mae siartiau (a’r cyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â hwy) yn darparu llawer owybodaeth i ymchwilwyr am nodweddion naturiol yr amgylchedd forol ac arfordirol yn y gorffennol a’r presennol yn ogystal ag effaith dyn ar yr amgylchedd hwn. Er enghraifft mae siartiau yn datguddio hanes
Mae gan y Llyfrgell gasgliad mawr o siartiau, yn bennaf siartiau Admiralty a masnachol modern, ond hefyd siartiau hynafiaethol. Mae’r cysylltiadau isod yn darparu mwy o fanylion am ddaliadau’r Llyfrgell: