Yr Arolwg Ordnans (OS) yw asiantaeth y Llywodraeth sy’n gyfrifol am gynhyrchu mapiau ar gyfer Prydain Fawr i gyd. Y mapiau sy’n cael eu cynhyrchu gan yr OS yw calon casgliad y Llyfrgell o fapiau printiedig modern.
Mae’r llyfryddiaethar waelod y dudalen hon yn darparu man cychwyn ar gyfer astudiaeth bellach o hanes yr OS a’i fapiau; gellir gweld y llyfrau hyn ar silffoedd agored Ystafell Ddarllen y De.
Ni dderbyniodd y Llyfrgell fapiau drwy Adnau Cyfreithiol hyd 1911 ac felly mae hyn yn golygu bod yna fylchau yn y casgliad o fapiau OS hŷn; fodd bynnag, mae’r Llyfrgell wedi llwyddo i sicrhau bod y rhan fwyaf o’r deunydd OS sy’n cynnwys Cymru yn eu meddiant yn ogystal â nifer helaeth o fapiau ar gyfer Lloegr a’r Alban.
Data Digidol Arolwg Ordnans (Land-line & Mastermap)
Yn ogystal â’r mapiau topograffig ar raddfa fawr mae gan y Llyfrgell hefyd fapiau ar raddfa fach a mapiau thematig o Brydain Fawr a gyhoeddwyd gan yr Arolwg Ordnans.
Mae gan y Llyfrgell hefyd fapiau o Iwerddon wrth Arolwg Ordnans Iwerddon (cyn ac ar ôl 1922) ac Arolwg Ordnans Gogledd Iwerddon. Mae cyhoeddiadau wrth y cyrff hyn yn dal i gael eu derbyn drwy adnau cyfreithiol.