Symud i'r prif gynnwys

Chwilio'r mapiau degwm

Chwiliwch drwy'r casgliad mapiau degwm am ddim. Gallwch weld y rhestrau penu a'r mapiau ynghyd â map cyfansawdd o Gymru trwy'r mapiau degwm.

Chwilio mapiau degwm Cymru

Hanes y degwm

Roedd yna 3 math o ddegwm:

  • Telid degwm y tir ar gynnyrch trin y tir e.e. ŷd, coed a llysiau
  • Telid degwm cymysg ar gynnyrch anifeiliaid – megis lloi, wŷn bach, gwlân a llaeth
  • Telid degwm personol ar elw llafur dyn – megis pysgota neu felino (ac yn ddibwys fwy neu lai wedi 1549)

Y mae’n fwy arferol cyfeirio at ddegymau fel ‘Degymau Mawr’ a ‘Degymau Bach’. Roedd y degymau mawr, a oedd hefyd yn cael eu hadnabod fel  ‘degymau’r rheithor’, yn daladwy i’r rheithor ac yn cynnwys yn gyffredinol ddegymau tir o ŷd, grawn, gwair a choed. Roedd y degymau bach, a oedd hefyd yn cael eu hadnabod fel ‘degymau’r ficer’, yn daladwy i’r ficer ac yn cynnwys yr holl ddegymau eraill.

Roedd perchnogaeth degwm yn hawl mewn eiddo y gellid ei brynu a’i werthu, ei roi ar les, neu forgais, neu ei drosglwyddo i eraill. Canlyniad hyn oedd i lawer o’r degymau rheithor gael eu trosglwyddo i ddwylo lleyg – yn arbennig ar ôl diddymu’r mynachlogydd. Daeth y degymau hyn wedyn yn eiddo personol y perchnogion newydd, neu briodorion lleyg. Wedi i’r degymau a fforffedwyd i’r Goron gael eu gwerthu yn yr 1530au, roedd tua 22.8% o werth net degymau yng Nghymru yn nwylo priodorion lleyg yn amser y cymudo yn 1836. Fel arfer byddai ficer yn dal i ofalu am y plwyf yn ysbrydol ac yn dal i dderbyn degymau’r ficer.

O gyfnod cynnar roedd taliadau mewn arian wedi dechrau cael eu cyfnewid am daliadau mewn nwyddau. Roedd symiau penodol (modus) yn cael eu cyfnewid am rai mathau o gynnyrch, yn arbennig da byw a chynnyrch darfodus; tra bo taliadau hyblyg neu daliadau cyfnewidiol (composition), a oedd weithiau yn cael eu hasesu’n flynyddol, yn gynyddol yn dod i gymryd lle taliadau eraill mewn trefniadau lleol mewn blynyddoedd mwy diweddar.

Dolenni i adnoddau Mapiau Degwm allanol