Symud i'r prif gynnwys

Un o’r pwysicaf yw atlas Thomas Taylor The Principality of Wales exactly described, a gyhoeddwyd yn 1718. Dyma’r atlas cyntaf o Gymru ar ei phen ei hun.

Mae enghreifftiau diddorol eraill yn cynnwys:

  • Williams Williams – Dinbych a Fflint [oddeutu. 1720]
  • Emanuel Bowen – De Cymru [oddeutu. 1729] ac a ailgyhoeddwyd yn 1760
  • John Evans – Gogledd Cymru (1795)
  • George Yates - Morgannwg (1799)
  • Joseph Singer - Ceredigion (1803)
  • J C Campbell – Sir Benfro (1827)


Mae’r mapiau hyn yn dangos y symudiad oddi wrth mapio siroedd unigol a thuag at fapio mwy rhanbarthol. Yn y 18fed ganrif roedd nifer o’r atlasau yn cynnwys mapiau o ogledd a de Cymru, tra bod pob sir yn Lloegr yn cael eu mapio, ac weithiau byddai gan Sir Fynwy fap iddi ei hun.

Yn ddiweddarach yn y 18fed ganrif dangoswyd mwy o ddiddordeb mewn  mapio siroedd manwl a chafwyd sawl ymgais i ddwyn perswâd ar syrfëwyr lleol i gynhyrchu mapiau ar raddfa 1 fodfedd i bob milltir neu raddfa gyffelyb ar gyfer pob sir. Llwyddiant cyfyngedig yn unig a gafodd y syniad hwn. Dim ond gyda dyfodiad yr Arolwg Ordnans, a ariannwyd gan y cyhoedd, y dechreuwyd cael arolwg manwl, cynhwysfawr o’r wlad.