Symud i'r prif gynnwys

Cyhoeddodd yr Iseldirwr Lucas Waghenaer yr atlas môr cyntaf, ‘Speighel dêr Zeevaerdt’, yn 1584. Doedd yr argraffiad cyntaf ddim yn cynnwys siart o arfordir Cymru; fodd bynnag, mae’r ail argraffiad, o 1586, yn cynnwys siart o Fôr Cymru a Môr Hafren. Dyma’r siart cynharaf yng nghasgliad y Llyfrgell.

Ychydig yn fwy diweddar ceir siart portolan 1592 a wnaed yn Seville gan Don Domingo de Villarroel. Mae’r siart yma ar felwm, er ei bod wedi ei difrodi gan dân, yn dangos yn eglur arfordiroedd Ewrop, Affrica ac America fel yr oedd yn cael ei adnabod 100 mlynedd wedi i Columbus lanio yno am y tro cyntaf.

Un o’r eitemau pwysicaf o safbwynt Cymreig yw arolwg Lewis Morris o arfordir Cymru o Landudno i Aberdaugleddau. Yn 1748 cyhoeddodd ei gynlluniau gweithio o sawl harbwr, bar, bae a ffordd ym Môr Cymru.

Mae’r siartiau yn welliant sylweddol ar y rhai cynharach ac yn darparu cyfoeth o wybodaeth ar raddfa fawr am ffrydiau llanw, angorfeydd a pheryglon. Fe wnaeth Lewis Morris hefyd baratoi siart fawr o’r holl arfordir o Landudno i Aberdaugleddau. Cafodd y siart hon ei diwygio a’i ehangu gan ei fab, William, yn 1800 a’r gyfrol yn 1801. Mae’r Llyfrgell yn dal sawl copi o’r 2 argraffiad. Gellir edrych ar Siartiau Lewis a William Morris yn Adran fapiau’r Drych Digidol.

Yn 1751 dechreuodd Murdock Mackenzie (yr Hynaf) ar arolwg 20 mlynedd o arfordir gorllewinol Prydain. Mae ei siart Gyffredinol ar Fôr Cymru a Môr Hafren yn 1775 yn dangos yr arfordir yn fanylach na siartiau blaenorol. Mae ei gyfres o siartiau ar raddfa mwy yn cynnwys arolygon manwl o Fae Caernarfon, Ceredigion, a Chaerfyrddin.

Nid yn unig mae’r siartiau yn y casgliad yn dangos gwybodaeth hydrograffeg a morol, ond maent hefyd yn ffynonellau defnyddiol ar gyfer hanes lleol. Er enghraifft mae siart Thomas Jeffery o Aberdaugleddau yn 1758 yn dangos batris drylliau a gwybodaeth gysylltiedig.

Ceir hefyd gynrychiolaeth o siartiau Morlys o’r 19eg ganrif yn y casgliad a rhai siartiau masnachol o’r un cyfnod.