Yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru y ceir y casgliad gorau, a’r helaethaf, o lawysgrifau a ddaeth yn wreiddiol o lyfrgell Plasty Mostyn, sir y Fflint. Yn wreiddiol o gasgliad Syr Thomas Mostyn (1651-92), Gloddaith, neu o lyfrgelloedd eraill y teulu ym Modysgallen a Chorsygedol, mae’r 77 llawysgrif bellach yn eiddo i’r Llyfrgell.
Ymysg uchafbwyntiau’r casgliad mae:
Daeth prif ran casgliad llawysgrifau Plasty Mostyn i’r Llyfrgell yn 1918, yn rhodd gan Mr A. Cecil Wright o Brandwood House, ger Birmingham. Dyma lsgrau. NLW 3021-76, ac maent yn cyfateb i’r casgliad a ddisgrifiwyd gan J. Gwenogvryn Evans ar gyfer y Comisiwn Brenhinol ar Lawysgrifau Hanesyddol yng nghyfrol gyntaf ei Report on Manuscripts in the Welsh Language (London, 1898) [mae copi ystafell ddarllen y Llyfrgell yn croesgyfeirio at rifau cyfredol ar gyfer y llawysgrifau].
Yn dilyn rhodd 1918, nid ymddengys i’r Llyfrgell Genedlaethol brynu rhagor o eitemau yn arwerthiannau cyhoeddus Mostyn yn Sotheby’s ym Mawrth 1919 (dramâu cynnar Saesneg), Ebrill 1920 (llyfrau printiedig) a Gorffennaf 1920 (llawysgrifau, gan gynnwys llawysgrifau goreuredig).
Prynwyd grŵp arall o 17 llawysgrif o Fostyn gan y Llyfrgell Genedlaethol, - gan gynnwys pedair llawysgrif ganoloesol, - yn arwerthiant Mostyn yn Christie’s ar 24 Hydref 1974. Hwy bellach yw llsgrau. NLW 21238-54, a disgrifir hwy’n llawn mewn teipysgrif, dyddiedig 1975, yn ystafell ddarllen y Llyfrgell.
Maent yn cynnwys:
Prynodd y Llyfrgell hefyd lyfrau printiedig yn nhri arwerthiant Mostyn yn Hydref 1974, a rhestrir y cyfrolau hyn mewn teipysgrif arall yn ein hystafell ddarllen.
Tros y blynyddoedd, llwyddodd y Llyfrgell i gasglu ambell gyfrol a grwydrodd yn sgil arwerthiannau Mostyn ym 1920 a 1974, a cheir y rheiny bellach ym mhrif rediad llawysgrifau NLW:
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn parhau i geisio prynu llawysgrifau o Fostyn wrth iddynt ymddangos ar y farchnad agored yn achlysurol.
Yn 1976, prynodd y Llyfrgell lawysgrif o farddoniaeth Gymraeg, o ganol yr 17eg ganrif, a fu unwaith ym meddiant cangen o deulu Mostyn yn Nhalacre, sir y Fflint. Catalogiwyd y llawysgrif hon, a adnabyddir bellach fel llsgr. NLW 21582E, mewn teipysgrif (1977) sydd ar gael yn ystafell ddarllen y Llyfrgell.
Nodir amod mynediad cyfyngedig (‘Restricted access’) ar amryw o lawysgrifau Mostyn yn ein catalog. Golyga hyn fod copi dirprwyol o’r llawysgrif ar gael, ac y cyfarwyddir darllenwyr i ddefnyddio’r copi hwnnw yn y lle cyntaf, er mwyn arbed cyflwr y gyfrol wreiddiol. Gellir gwneud cais yn yr ystafell ddarllen, yn ôl yr angen, i gael gweld y llawysgrif wreiddiol.
Mae prif gorff Archif Mostyn, - sy’n eiddo i’r Stad o hyd, - ar adnau yn Archifdy Prifysgol Bangor. Cedwir rhai cofysgrifau eraill, sydd eto’n eiddo i Stad Mostyn, yn Archifdy Sir y Fflint.
Yn ystod ail hanner 2018, bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dathlu canmlwyddiant dyfodiad y grŵp cyntaf o lawysgrifau o Fostyn i Aberystwyth. Mewn arddangosfa yn Oriel Hengwrt y Llyfrgell, o Fehefin hyd Ragfyr, dangosir eitemau o gasgliad y Llyfrgell, ochr yn ochr â rhai eitemau sy’n aros o hyd ym Mhlasty Mostyn, trysorau fydd yma am gyfnod byr. Cynllunnir cyfres o ddigwyddiadau i gyd fynd â’r arddangosfa, gan gynnwys cynhadledd academaidd, a chyfres o sgyrsiau perthnasol.