Llawysgrifau Cwrtmawr
Dyma gasgliad personol John Humphreys Davies (1871-1926), Cwrtmawr, cyn-Brifathro Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, ac un o gymwynaswyr mawr y Llyfrgell Genedlaethol.
Cynnwys Llawysgrifau Cwrtmawr
Mae’r casgliad yn cynnwys llawysgrifau:
- John Jones (‘Myrddin Fardd’; 1836-1921)
- Peter Bailey Williams (1723-96)
- William John Roberts(‘Gwilym Cowlyd’; 1828-1904)
- Daniel Silvan Evans (1818-1903)
- teulu Richards, Darowen
Trosglwyddwyd rhan gyntaf llawysgrifau Cwrtmawr i’r Llyfrgell Genedlaethol ym 1925 (llsgrau. 1-50), a throsglwyddwyd y gweddill (llsgrau. 51-1492) ar ôl marw J H Davies ym 1926.
Ymysg y llawysgrifau ceir rhai o waith:
- Elis Gruffydd, ‘Y Milwr o Galais’(c. 1490-c.1552) (llsgr. Cwrtmawr 1D)
- William Salesbury (c. 1520-?1584) (llsgr. Cwrtmawr 3B)
- Richard Robert Jones (‘Dic Aberdaron’; 1780-1843) (llsgrau. Cwrtmawr 50E, 677B, 831A)
- John Harries (bu f. 1839), y dyn hysbys o Gwrtycadno (llsgr. Cwrtmawr 97A)
- Robert Roberts (‘Y Sgolor Mawr’; 1834-85) (llsgrau. Cwrtmawr 131-2B, 133-4A, 135B, 136C, 138A, 139B, 741C)
Llyfryddiaeth
Am ddisgrifiadau o’r llawysgrifau unigol, gweler:
- llsgrau. 1-50: catalog J Gwenogvryn Evans, Report on Manuscripts in the Welsh Language’(London, 1898-1910), cyfr. II, tt. 871-937
- llsgrau. 51-1000: pedair cyfrol deipysgrif A Catalogue of the Cwrtmawr Manuscripts (1980, 1993, 1994, 1996)
- rhestrir 51 o lawysgrifau cerddorol a gasglwyd gan J.H. Davies yn A Catalogue of the Cwrtmawr Music Manuscripts (2004)
Casgliadau llawysgrif eraill
Yn ogystal â chasgliadau a ymgorfforwyd yng nghyfres Llawysgrifau NLW mae casgliadau eraill o lawysgrifau sydd o bwysigrwydd tebyg a gedwir ar y cyd ag archifau perthnasol fel
- Bodewryd
- Brogyntyn
- Castell y Waun
- Castell Coch Powis
- Wynnstay