Symud i'r prif gynnwys

Ceir 3 cyfres gyffredinol o lawysgrifau yn y Llyfrgell, sef

  • Cyfres Llawysgrifau NLW

  • Cyfres Llawysgrifau NLW ex

  • Rholiau NLW

Cyfres Llawysgrifau NLW

Cyfres benagored o lawysgrifau yw hon a dderbynir fel rhodd neu bwrcasiad. Maent fel arfer yn gyfrolau neu'n rholiau, neu'n ddeunydd heb ei rwymo y gellir ei rwymo neu ei ffeilio, sydd heb fod yn rhan o archif neu gasgliad.

Gellir dod o hyd i'r rhan fwyaf o lawysgrifau llenyddol, hanesyddol a hynafiaethol y Llyfrgell ymhlith cyfres Llawysgrifau NLW.

Ymysg y llawysgrifau cynnar, mae

Ymysg y llawysgrifau mwy diweddar, mae

Ymgorfforwyd llawer o gasgliadau nodedig yng nghyfres Llawysgrifau NLW, gan gynnwys rhai

  • Panton (llsgrau. NLW 1970-2068)
  • Mostyn (llsgrau. NLW 3021-76 a 21238-54)
  • Bourdillon (llsgrau. NLW 5001-148)
  • Llanover (llsgrau. NLW 13061-184)
  • Gwysaney (llsgrau. NLW 17110-62)

Cyfres Llawysgrifau NLW ex

Mae'r dosbarth hwn yn cynnwys llawysgrifau na chynhwysir ymhlith Llawysgrifau NLW. Y mathau o lawysgrif a roddir yn y dosbarth hwn gan amlaf yw

  • cyfrolau o doriadau papur newydd
  • llyfrau lloffion
  • traethodau ymchwil
  • papurau ymchwil

Parhad ydyw o gyfres gaeëdig a adwaenir fel 'Miscellaneous Volumes' (neu 'Misc.Vols', rhifau 1-415), ac fe ddechreua'r gyfres gyda NLW ex 416.


Rholiau NLW

Casgliad amrywiol o 305 eitem sy'n cynnwys

  • rholiau achau, o'r 15fed - 20fed ganrif
  • anerchiadau
  • rholiau dwyreiniol
  • llyfrau deilen palmwydd
  • rhai eitemau heb fod yn llawysgrifau

Ers 1981 cynhwyswyd y rholiau hynaf a'r rhai mwyaf gwerthfawr a dderbyniwyd yn y gyfres llsgrau. NLW, maint G.

Ceir hefyd yn y Llyfrgell 2 gyfres bwysig o atgynhyrchiadau o lawysgrifau, sef:


Ffacsimilïau (NLW Facs)

Mae'r dosbarth hwn yn cynnwys ffotograffau, ffotostatau a llungopïau o lawysgrifau ac archifau mewn llyfrgelloedd ac archifdai, ac o eitemau sydd mewn dwylo prifat.


Microffilmiau o lawysgrifau o ddiddordeb Cymreig

Cnewyllyn y casgliad yw microffilmiau o lawysgrifau Cymraeg a llawysgrifau o ddiddordeb Cymreig sydd mewn llyfrgelloedd pwysig eraill.

Ar wahân i lawysgrifau'r Llyfrgell Brydeinig (NLW Film BL) a llawysgrifau Caerdydd (DC), mae'r deunydd yma i gyd yn gynwysedig yn y gyfres NLW Film.