Cardiau Post yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol rhyw 15,000 o gardiau post o ddiddordeb Cymreig yn y Casgliad Cenedlaethol o Ffotograffau Cymreig. Mae’r mwyafrif o’r rhain yn rhai topograffig ac maent yn cael eu trefnu yn ôl sir. Mae categorïau eraill yn cynnwys cardiau arlunwaith, hiwmor, gwleidyddiaeth a chardiau modern.

Hanes y cerdyn post

Dechreuodd y cardiau post â llun ddod yn gyffredin ar ôl 1902, gyda’r newidiadau mewn rheolau a oedd yn caniatáu i’r neges a’r cyfeiriad ymddangos ar yr un ochr o’r cerdyn. Roedd hyn yn rhyddhau’r cefn ar gyfer llun. Yn sydyn daeth cardiau post a chasglu cardiau post yn hynod boblogaidd. Erbyn 1909 roedd dros 800 miliwn o gardiau post yn cael eu postio’n flynyddol ym Mhrydain. Roedd mwy yn cael eu prynu er mwyn eu cadw fel swfenîr yn unig.

Daeth y cyfnod o 1902-1919 i gael ei adnabod fel “Oes Aur Cardiau Post.” Roedd bron pob ffotograffydd proffesiynol a oedd yn gweithio bryd hynny ynghlwm wrth gynhyrchu cardiau post.

Ymhlith y rhain roedd:

  • P B Abery o Lanelwedd
  • William Harwood o Gricieth 
  • Arthur Lewis o Aberystwyth

Gellir canfod casgliadau o negatifau gan y ffotograffwyr hyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn ogystal mae yna nifer o gardiau post da gan amrywiaeth o ffotograffwyr lleol sy’n adnabyddus i ni drwy eu henwau yn un

Poblogrwydd y cardiau post

Roedd cardiau post mor boblogaidd fel bod cardiau ar bob agwedd o fywyd (ac weithiau marwolaeth) i’w cael.

Ar raddfa ehangach, roedd cwmnïau cenedlaethol megis Francis Frith, Valentines ac E T W Dennis yn cynhyrchu llawer iawn o gardiau post o Gymru. Dewisodd y cwmnïau mawr hyn bortreadu yr agweddau hynny ar ardal a oedd yn fwyaf tebyg o apelio at dwristiaid.

Ymysg eu hoff bynciau roedd:

  • golygfeydd mynyddig
  • cestyll
  • promenadau
  • pier glan-y-môr

Roedd poblogrwydd y cardiau post hefyd yn cyd-fynd gyda’r cyfnod pan oedd David Lloyd George mewn grym. Cyhoeddwyd rhai cannoedd o gardiau yn portreadu David Lloyd George. Nid oedd pob un yn garedig!

Oherwydd y costau a oedd ynghlwm wrth gynhyrchu ffotograffau, roedden nhw’n bethau prin mewn papurau newydd. O ganlyniad byddai nifer o ddigwyddiadau cenedlaethol a lleol yn cael eu tynnu gan ffotograffwyr mentrus ac yn cael eu gwerthu fel cardiau post. Mae’r genres yma yn enghreifftiau o ffoto-newyddiaduraeth. Un gyfres o’r fath yw trychineb pwll glo Senghennydd yn 1913. Er bod y syniad o gynhyrchu cerdyn post o ddigwyddiad o’r fath yn atgas i nifer o bobl, dyma’r union fath o ddelwedd y byddai pobl yn ei gweld ar deledu neu mewn papurau newydd pe bai digwyddiad o’r fath yn y newyddion heddiw.

Y cerdyn post heddiw

Mae’r 20 mlynedd diwethaf wedi gweld adfywiad yn hanes y cerdyn post â llun. Mae nifer o ffotograffwyr cyfoes megis Jeremy Moore, Martin Turtle a Patricia Aithie i gyd yn dewis cyhoeddi eu gwaith ar ffurf cardiau post. Caiff y cyfan ei gynrychioli yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru.