Taleithiau Unedig America

Bu ymfudo cyson o Gymru i America yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif, ac erbyn y 40au roedd nifer o gymunedau Cymreig yn Wisconsin ac Illinois.

Hanes yr ymfudo

Gwelwyd cynnydd yn nifer y mewnfudwyr gyda datblygu'r diwydiannau glo a haearn a'r chwareli llechi yn nhalaith Pennsylvania. Amcangyfrifwyd ym 1890 bod dros 100,000 o ddinasyddion America wedi eu geni yng Nghymru. Aeth y Cymry hyn ati gyda chryn frwdfrydedd i sefydlu capeli a chymdeithasau Cymraeg. Roedd i'r wasg hefyd ei lle amlwg yn y patrwm hwn, drwy fod yn gyfrwng i gysylltu'r cymunedau Cymreig â'i gilydd, a darparu newyddion ar eu cyfer.

Arloeswyr y wasg Gymreig

John A Williams ('Don Glan Towy'), argraffydd o dref Abertawe, oedd arloeswr y wasg newyddiadurol Gymraeg yn America. Ymfudodd ef i'r Taleithiau yn y 1830au cynnar gan sefydlu papur newydd Saesneg yn dwyn y teitl The Mobile Sentinel. Ym mis Ionawr 1832 sefydlodd Cymro America yn ninas Efrog Newydd fel newyddiadur pythefnos dwyieithog, a pharhaodd i ymddangos tan fis Mehefin yr un flwyddyn.

Ni chafwyd ymdrech arall at sefydlu papur newydd Cymraeg yn America tan 1848, pan gyhoeddwyd Haul Gomer yn Utica, Efrog Newydd, gan Evan Roberts ('Dewi o Geredigion'). Byr fu parhad hwn eto gan mai 9 o rifynnau yn unig a gyhoeddwyd.

Cyhoeddiadau enwadol

Yn y cyfamser roedd William Rowlands wedi sefydlu ei gylchgrawn misol Y Cyfaill o'r Hen Wlad yn America ym 1838. Daeth y cylchgrawn yn y man yn gyhoeddiad swyddogol y Methodistiaid Calfinaidd yn y Taleithiau, a pharhaodd i ymddangos tan 1933. Hwn oedd y cyntaf o blith nifer o gylchgronau enwadol a gyhoeddwyd gan Gymry America, fe'i dilynwyd yn y man gan deitlau eraill megis:

  • Y Cenhadwr Americanaidd (1840-1904), cyhoeddiad yr Annibynwyr
  • Y Seren Orllewinol (1844-67), cyhoeddiad y Bedyddwyr
  • Gwawr Americanaidd (1872-96), cyhoeddiad y Bedyddwyr

Nid yw'n annisgwyl efallai fod sefyllfa'r wasg gyfnodol Gymraeg yn America yn adlewyrchu sefyllfa'r wasg yng Nghymru, ac mai'r cyhoeddiadau enwadol hyn a lwyddodd orau.

Er hynny mae'n wir dweud bod y cyhoeddiadau hyn yn fwy na chyfnodolion enwadol a chrefyddol, gan eu bod hefyd yn darparu newyddion tramor a chenedlaethol, ac yn mynegi barn ar bynciau llosg y dydd. Roedd gan rai o olygyddion y cyhoeddiadau hyn argyhoeddiadau pendant, megis Robert Everett, perchennog a chyhoeddwr Y Cenhadwr Americanaidd. Roedd ef am ddiddymu'r fasnach mewn caethion a rhoes fynegiant croyw i'w ddaliadau yn ei gylchgrawn. Yna ym 1843 sefydlodd Y Dyngarwr fel cyhoeddiad misol a gondemniai gaethwasiaeth yn ddiarbed. Prin flwyddyn fu ei barhad, ond rhoes Everett gynnig arall ar gylchgrawn tebyg ym 1850 pan sefydlodd Y Detholydd a barhaodd am 2 flynedd.

Cylchgronau plant

Cyhoeddwyd cylchgronau plant gan Gymry America hefyd, megis Yr Ysgol (Efrog Newydd, 1869-70), a ddilynwyd gan Blodau yr Oes a'r Ysgol (1872-75), a seiliwyd i raddau ar Trysorfa'r Plant, cylchgrawn llwyddiannus Thomas Levi yng Nghymru.

Cylchgronau llenyddol

Ymhlith y cylchgronau llenyddol roedd:

  • Y Cylchgrawn Cenedlaethol (Efrog Newydd, 1853-6)
  • Y Bardd (Scranton, 1858)
  • Traethodydd yn America (Efrog Newydd, 1857-61)

Cynhwysai'r Traethodydd erthyglau gwreiddiol gan lenorion Cymraeg America, yn ogystal â defnyddiau a godwyd o gylchgrawn Lewis Edwards o'r un enw a gyhoeddwyd yng Nghymru. Yr oedd The Cambrian a ymddangosodd gyntaf yn Cincinnatti ac yna yn Remsen, Efrog Newydd, ymhlith yr ychydig gylchgronau Saesneg a gyhoeddwyd i wasanaethu'r cymunedau Cymreig yn y Taleithiau, a ffynnodd yn ystod y blynyddoedd 1880-1910.

Oes y cyhoeddiadau Cymreig yn yr Unol Daleithiau

Roedd cyfanswm o 21 o newyddiaduron yn gwasanaethu Cymry America ar ryw adeg neu'i gilydd rhwng 1832 a’r 1920au. Byrhoedlog oedd y mwyafrif llethol ohonynt, ond llwyddodd rhai teitlau i oroesi am 5 mlynedd neu fwy, megis Y Cymro Americanaidd (Efrog Newydd, 1855-60), Y Wasg (Pittsburgh, 1871-90), a Colomen Columbia (Emporia, Kansas, 1883-93).

Yn naturiol ddigon lleihau'n raddol wnaeth rhif siaradwyr y Gymraeg yn America yn chwarter olaf y 19eg ganrif, ac erbyn yr 1880au roedd amryw o'r cyfnodolion a'r newyddiaduron hyn eisoes wedi troi'n gyhoeddiadau dwyieithog. Y mwyaf llwyddiannus o'r holl gyhoeddiadau oedd Y Drych Americanaidd a sefydlwyd gyntaf yn Efrog Newydd ym 1851. Fe'i symudwyd i Utica, un o ganolfannau cyhoeddi Cymraeg pwysicaf America ym 1861 a buan y datblygodd i fod yn brif newyddiadur Cymry'r Taleithiau Unedig. Cymraeg oedd iaith Y Drych hyd at ddechrau’r 1930au a dechreuwyd ei gyhoeddi'n fisol yn hytrach nag yn wythnosol ym 1940.

Bu nifer sylweddol o Gymry yn weithgar yn sefydlu newyddiaduron Saesneg yn y Taleithiau hefyd. Brodor o Forgannwg oedd Thomas Price ('Cuhelyn') a sefydlodd The Workmans Advocate a'r Minersville Bulletin yn ystod y 50au. Cymro hefyd, gŵr o'r enw George Jones oedd un o sefydlwyr The New York Times. Roedd gan Ellis Roberts, perchennog The Utica Morning Herald, a George Harries cyhoeddwr The Washington Evening Star gysylltiadau agos â Chymru hefyd.