Wythnosolion Cynnar

Y mae'n ffaith arwyddocaol mai bychan oedd rhif y newyddiaduron a sefydlwyd yng Nghymru yn ystod 20au a 30au y 19eg ganrif.

Byrhoedlog fu gyrfa:

  • The Cardiff Weekly Reporter (Caerdydd, 1822)
  • The Newport Review (Caerdydd, 1822)
  • Cronicl yr Oes(Yr Wyddgrug, 1836-39)
  • The Cambrian gazette: Y Freinlen Gymroaidd (Aberystwyth, 1836).

Serch hynny bu The Monmouthshire Merlin (Casnewydd, 1829-91), a The Welshman (Caerfyrddin, 1832-1984) yn fwy llwyddiannus.

Yr Amserau

Yn araf iawn daeth y Cymro cyffredin i ystyried y papur newydd fel un o angenrheidiau bywyd. Er i rif y newyddiaduron gynyddu'n raddol yn ystod y 1830au a'r 1840au cynnar, ni fwriodd yr un ohonynt wreiddiau nes i William Rees ('Gwilym Hiraethog') sefydlu Yr Amserauyn Lerpwl ym 1843. Hwn oedd y newyddiadur Cymraeg cyntaf i lwyddo. Daeth yn arbennig o boblogaidd pan ddechreuodd ei olygydd gyhoeddi cyfres o ysgrifau yn dwyn y teitl 'Llythurau 'Rhen Ffarmwr' yn ei golofnau, rhwng 1846 a 1851. Pwnc y llythyrau (a ysgrifennwyd yn nhafodiaith bro Hiraethog) oedd:

  • Helyntion y cyfnod
  • landlordiaeth a'r degwm
  • Deddfau'r ŷd, gwleidyddiaeth 
  • Addysg

Baner ac Amserau Cymru

Prynwyd Yr Amseraugan Thomas Gee ym 1859 ac unwyd y newyddiadur â Baner Cymru, newyddiadur a sefydlwyd 2 flynedd ynghynt. Yn y man daeth Baner ac Amserau Cymruyn ddylanwad grymus ar fywyd Cymru. Yn Rhyddfrydol ei agwedd bu'n gefn cyson i'r werin mewn achosion Radicalaidd gan amddiffyn Ymneilltuaeth ar bob cyfle. Am rai blynyddoedd o 1861 ymlaen cyhoeddwyd y papur ddwywaith yr wythnos, a llwyddodd ei berchennog i ddenu nifer o newyddiadurwyr galluog i weithio i'r papur, fel John Griffith ('Y Gohebydd'). Penodwyd ef yn ohebydd Llundain i'r Faner, a threuliai lawer o'i amser yn gwrando ar ddadleuon y Senedd a mynychu cyfarfodydd gwleidyddol ledled Cymru.

Roedd newyddiaduraeth bellach wedi datblygu'n broffesiwn yng Nghymru. Gallai gynnig cynhaliaeth ddiogel i'r rhai a fynnai droi ati, fel y gwnaeth Lewis William Lewis ('Llew Llwyfo') a fu'n newyddiadurwr ar nifer o bapurau yng Nghymru ac America.

Cynnydd mewn Newyddiaduron

Bu cynnydd rhyfeddol yn rhif y papurau newydd a gyhoeddwyd yng Nghymru gyda dileu'r dreth ar hysbysebion ym 1853 a'r dreth stamp ar gopïau o newyddiaduron ym 1855. I'r cyfnod hwn y perthyn y mwyafrif o'r newyddiaduron enwadol:

  • Seren Cymru (1851)
  • Y Tyst Cymreig (1867)
  • Y Goleuad (1869)
  • Y Gwyliedydd (1877)
  • Llan a'r Dywysogaeth(1881)

Roedd y rhain i bob pwrpas yn bapurau cenedlaethol yn yr ystyr eu bod yn darparu newyddion cartref a chenedlaethol, a'u bod yn rhoi arweiniad mewn materion gwleidyddol a chymdeithasol.

Newyddiaduron dyddiol

Bu'n rhaid aros tan 1861 cyn gweld y papur dyddiol cyntaf yng Nghymru pan sefydlwyd The Cambria Daily Leader fel papur Rhyddfrydol, ac Abertawe unwaith yn rhagor fu'n arloesi yn y maes. Yn ddiweddarach ym 1872 sefydlwyd The South Wales Daily News yng Nghaerdydd a'r South Wales Daily Post yn Abertawe ym 1893. Y papur dyddiol mwyaf poblogaidd, sy'n parhau i ymddangos heddiw, oedd The Western Mail, Fe’i sefydlwyd fel newyddiadur Ceidwadol ym 1869 i hyrwyddo buddiannau gwleidyddol Ardalydd Bute.

Wythnosolyn Cyntaf Cymru

Ym 1804 ymddangosodd y newyddiadur wythnosol cyntaf yng Nghymru pan gyhoeddwyd The Cambrian yn Abertawe.

Roedd Abertawe yn ganolfan addas ar gyfer menter o'r fath gan ei bod yn dathlu'n dref brysur o ran masnach a diwydiant a chanddi gysylltiadau ar fôr a thir i ddosbarthu'r papur. Cyfyngwyd cylchrediad The Cambrian i'r lleiafrif bychan a fedrai ddarllen Saesneg ym mhrif drefi de Cymru. Profodd y fenter yn llwyddiant, ac fe'i dilynwyd yn y man gan wythnosolion eraill megis The North Wales Gazette a sefydlwyd ym Mangor ym 1808, a'r Carmarthen Journal a sefydlwyd yng Nghaerfyrddin ym 1810.

Yr Wythnosolyn Cymraeg Cyntaf

Ar ddydd Calan 1814 cyhoeddwyd y newyddiadur Cymraeg wythnosol cyntaf pan sefydlwyd Seren Gomer yn Abertawe.

Cyhoeddwyd ‘Seren Gomer’ gan Joseph Harris ('Gomer'), gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Abertawe. Yn ôl prospectws y Seren, amcan y newyddiadur oedd cyhoeddi newyddion:

  • cartref
  • tramor
  • gwleidyddol
  • crefyddol
  • a chyfraniadau llenyddol a fyddai’n amddiffyn a lledaenu'r Gymraeg

Yn wahanol i'r wythnosolion Saesneg eu hiaith a gyhoeddai newyddion lleol yn bennaf, roedd Seren Gomer yn newyddiadur cenedlaethol i Gymru gyfan. Er bod iddo gylchrediad cymharol eang daeth gyrfa'r Seren i ben ar ôl 85 o rifynnau. Roedd hyn yn bennaf achos bod y dreth ar bapur yn ei wneud yn rhy ddrud, a bod yr incwm a dderbyniai o hysbysebion yn rhy fychan.