Symud i'r prif gynnwys

Sefydlwyd The North Wales Gazette ym Mangor ym 1808 gan deulu'r Brosters a hanai'n wreiddiol o Gaer. Yn 1827 newidiwyd ei deitl i The North Wales Chronicle.

Dair blynedd yn ddiweddarach ymddangosodd y rhifyn cyntaf o'r Caernarvon herald. Sefydlwyd y papur hwn gan William Potter yng Nghaernarfon, yntau hefyd yn frodor o Gaer. Erbyn 1836 ymddangosai’r papur yn rheolaidd dan y teitl The Caernarvon and Denbigh Herald.

Bu cryn elyniaeth a brwydro caled rhwng y ddau bapur gan eu bod yn cynrychioli safbwyntiau hollol wahanol, - y Chronicle ar y naill law yn Dorïaidd ac Eglwysig, a'r Herald ar y llaw arall yn Rhyddfrydol ac Ymneilltuol.

Newyddiaduron Bangor

Cyhoeddwyd nifer o newyddiaduron Cymraeg ym Mangor, a'r rheini hefyd o natur Geidwadol megis:

  • Y Cymro (1886-1921)
  • Cronicl Cymru (1866-72)
  • Llais y Wlad (1874-84)
  • Gwalia (1886-1921)
  • Chwarelwr Cymreig (1893-1902)

Ym Mangor hefyd y cyhoeddai'r Sosialydd E Pan Jones ei wythnosolyn bywiog Y Celt rhwng 1882 a 1894.

Newyddiaduron Caernarfon

Gwnaed ymgais at sefydlu newyddiadur Cymraeg yng Nghaernarfon yn y 1830au pan gyhoeddwyd Y Papur newydd Cymraeg rhwng 1836 a 1837.

Mae'n debyg taw James Rees oedd y pwysicaf o gyhoeddwyr newyddiaduron y dref. Ef a sefydlodd Yr Herald Cymraeg ym 1855 fel newyddiadur Rhyddfrydol, ac yr oedd iddo gylchrediad helaeth yn siroedd Môn ac Arfon. Rhoddwyd lle amlwg i lenyddiaeth yn ei golofnau a bu rhai o lenorion amlyca'r cyfnod fel Llew Llwyfo, Richard Hughes Williams a T Gwynn Jones ar staff ei swyddfa.

Yng Nghaernarfon hefyd y sefydlwyd Y Genedl Gymreig ym 1877. Roedd hwn yn newyddiadur dylanwadol a brynwyd gan nifer o aelodau seneddol gan gynnwys David Lloyd George ym 1892. Y flwyddyn honno y penodwyd Beriah Gwynfe Evans yn olygydd i'r papur a datblygodd Y Genedl yn newyddiadur cenedlaethol gydag argraffiad arbennig ar gyfer y de.

Ymhlith eraill o bapurau Caernarfon sy'n perthyn i'r cyfnod mae:

  • Yr Amseroedd (1882-5)
  • Briwsion i Bawb (1885-6)
  • Y Werin (1889-1914)
  • Y Gadlef (1887-92)
  • Papur Pawb (1893-1916)
  • Eco Cymraeg (1889-1914)

Newyddiaduron trefi eraill Cymru

Yr oedd gan drefi fel y Rhyl, Blaenau Ffestiniog, Dolgellau, Ystalyfera, Llanelli ac Abertawe eu papurau yn ogystal, a gallai trefi llai fel Aberhonddu, Castell-newydd Emlyn, a Phwllheli ymffrostio yng nghynnyrch eu gweisg.

Ym Mhwllheli ym 1888 y ffurfiodd David Lloyd George gwmni i sefydlu Utgorn Rhyddid fel wythnosolyn Cymraeg a fu'n arf allweddol bwysig iddo wrth ymgyrchu'n llwyddiannus fel ymgeisydd seneddol.

Erbyn diwedd y 1880au, cyhoeddwyd dros 70 o wythnosolion Saesneg a 25 o wythnosolion Cymraeg yng Nghymru, gweithgarwch a ysgogodd J E Vincent i ddatgan yng ngholofnau Times Llundain ym 1889:

‘The growth of journalism, and of vernacular journalism in particular, in the Principality has of late years been little short of phenomenal. My impression, indeed, is that Wales supports more journals in proportion to its population than any other part of the civilized world.’