Symud i'r prif gynnwys

Cynnwys y casgliad papurau newydd

Nôd y Llyfrgell yw casglu papurau rhanbarthol Cymreig, papurau newydd cenedlaethol Prydeinig, sef papurau newydd a chenedlaethol Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys bapurau cenedlaethol Gweriniaeth yr Iwerddon a phapurau Cymreig o wledydd eraill fel yr UDA a’r Arianyn. Yn ogystal ceir teitlau rhyngwladol ar ffurf microfilm a CD Rom megis El Pais (Sbaen), Le Monde (Ffrainc) a’r New York Times (UDA).

Ffurf y casgliad papurau newydd

Mae casgliad eang o bapurau newydd printiedig. Cynnwysa y casgliad hefyd rhediad cyflawn o gopïau microfilm o bapurau newydd rhanbarthol Prydeing a gynhyrchwyd fel rhan o brosiect Newsplan 2000.
Datblygodd y Llyfrgell adnodd arlein o bapurau rhanbarthol Cymreig gyda mynediad agored Papurau Newydd Cymru.
Yn ogystal â’r adnodd yma mae gan ddarllenwyr fynediad i gronfa ddata British Newspapers Archive yn Ystafelloedd Darllen y Llyfrgell.

Defnyddio’r casgliad

Mae rhan fwyaf o’r casgliad wedi’i gatalogio a gellir dod o hyd i’r wybodaeth ar Gatalog y Llyfrgell. Gellir archebu deunydd i’w ddarllen yn yr Ystafell Ddarllen. Gan fod papurau newydd yn fregus cynnigir copiau dirpwyol ar ffurf digidol a microffilm lle mae’n bosib yn hytrach na’r gwreiddiol.

Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch, porwch a darllenwch dros 15 miliwn o erthyglau o bapurau newydd o ar draws Cymru am ddim. 

Beth wnewch chi ddarganfod heddiw? 

Chwilio Papurau Newydd Cymru