Cylchgronau Cyffredinol a Llenyddol

Cylchgronau cyffredinol

Yr oedd nifer o sylwebyddion y cyfnod eisoes wedi mynegi'r farn mai un o brif ddiffygion y wasg gylchgronol yng Nghymru oedd ei natur enwadol, fel y gwnaeth Thomas Stephens, yr ysgolhaig o Ferthyr Tudful, er enghraifft. Medd ef ym 1851:

'Nid yw yn glod mawr i'r genedl, ei bod yn analluog neu yn anewyllysgar i gynnal ei chyhoeddiadau, heb eu bod mewn cysylltiad â'r enwadau crefyddol, ond felly y mae.'

Fodd bynnag rhaid gochel rhag rhoi'r argraff mai'r Eglwys Sefydledig a'r enwadau Ymneilltuol yn unig a fu'n noddi'r wasg gyfnodol yn ystod y cyfnod hwn oblegid cafwyd rhai ymdrechion clodwiw at sefydlu cylchgronau cwbl annibynnolyn ogystal.

Ym 1828 dechreuodd Joseph Davies, cyfreithiwr o Lerpwl, gyhoeddi'r Brud a'r Sylwydd, cylchgrawn dwyieithog nad oedd dim a fynnai ag unrhyw enwad crefyddol. Yr oedd gan y golygydd ddiddordeb mawr mewn gwyddoniaeth a thros ledaenu gwybodaeth ohoni ymhlith ei gyd-Gymry. Credai hefyd mewn llunio geiriau Cymraeg newydd ar gyfer anghenion yr oes, ac ychwanegodd at eirfa'r iaith drwy fathu geiriau i gyfarfod â holl ofynion athroniaeth, gwyddoniaeth ac economeg. Ond byr fu rhawd y Brud a'r Sylwydd a daeth i ben ym mis Awst 1828.

Cylchgrawn tebyg i’r Brud a’r Sylwydd oedd Y Cymmro.Fe’i cyhoeddwyd yn Llundain yn ystod y blynyddoedd 1830-32, ond gorffennodd y cyhoeddiad oherwydd prindercysodwyr Cymraeg yn y brifddinas. I'r un cyfnod y perthyn cyfnodolion mwy arbenigol fel Y Cynghorydd Meddygol Dwyieithawg(1829) a'r Amaethydd(1845-6).

Y chwarterolion llenyddol

Agorwyd pennod newydd yn hanes y wasg gylchgronol Gymraeg ym 1845 gyda sefydlu'r Traethodyddfel chwarterolyn gan Thomas Gee, a Lewis Edwards yn brif olygydd iddo. Ac yntau'n llanc 18 oed yn Aberystwyth cafodd Lewis Edwards fenthyg rhai rhifynnau o'r Blackwoods Magazinea gwnaeth argraff ddofn arno. Cyflwynwyd ef i lenyddiaeth Lloegr a'r Almaen am y tro cyntaf, meysydd y daeth i ymhyfrydu fwyfwy ynddynt pan aeth i Gaeredin ym 1833 i'w addysgu gan un o ysgrifenwyr enwocaf ‘Blackwood's’ sef John Wilson - 'Christopher North'. 'Does ryfedd felly i Lewis Edwards batrymu'r ‘Traethodydd’ ar gylchgronau Saesneg fel The EdinburghReviewa Blackwood's Magazine, ond gyda'r prif bwyslais ar ddiwinyddiaeth, athroniaeth ac addysg. Cyhoeddiadau tebyg oedd Yr Adolygydd a'r Beirniad, ond byr fu gyrfa'r rhain o'u cymharu â chylchgrawn Lewis Edwards sy'n parhau i ymddangos heddiw.

Bu twf pellach yn rhif y cyfnodolion a gyhoeddwyd yng Nghymru yng nghanol y 19eg ganrif, ac erbyn 1861 gallai Thomas Watts, Ceidwad Adran y Llyfrau Printiedig yn yr Amgueddfa Brydeinig ysgrifennu fel hyn yn Knight's Penny Cyclopaedia:

'In almost every country the periodical portion of its literature has now assumed an importance unknown to previous stages of its history, but in no country is it so predominant as in Wal

Cylchgronau llenyddol

Gwelwyd ysgafnhau ychydig ar natur cylchgronau ail hanner y ganrif, a bu cynnydd yn rhif y cyhoeddiadau poblogaidd.

Er mai llenyddol a hynafiaethol yn bennaf oedd osgo'r Brython(1858-1863), cyhoeddwyd ynddo hefyd lawer o lên-gwerin - yr union ddefnyddiau a anwybyddwyd gan y cyfnodolion enwadol. Roedd y rheini bellach, serch hynny yn barotach i gyhoeddi defnyddiau ysgafnach, a daeth nofelau a storïau cyfres yn boblogaidd ar eu tudalennau. Yr oedd amryw o'r rhain yn drosiadau neu'n gyfaddasiadau o weithiau Saesneg ac Americanaidd ac o natur foesol ac adeiladol yn ôl chwaeth y cyfnod. Yn y man daeth y nofel yn barchus fel cyfrwng llenyddol, ac ym 1861 sefydlodd William Aubrey o Lannerch-y-medd ym Môn, Y Nofelydd a Chydymaith y Teulu fel cyhoeddiad misol.

  • Golud yr Oes

I'r un cyfnod y perthyn Golud yr Oes, cylchgrawn poblogaidd a gyhoeddwyd gan Hugh Humphreys yng Nghaernarfon. Yr oedd Humphreys ymhlith y mwyaf anturus a dyfeisgar o argraffwyr ei gyfnod, a mabwysiadodd dechnegau argraffu newydd megis ysgythru oddi ar blatiau dur a chopr. Adlewyrchir hyn yng nghynnwys Golud yr Oes, un o gyfnodolion Cymraeg mwyaf uchelgeisiol y ganrif.

  • Y Punch Cymraeg

Yr oedd engrafiadau a chartwnau ymhlith prif nodweddion Y Punch Cymraeg (1858-1864) yn ogystal. Seiliwyd y cyhoeddiad hwn ar y ‘Punch’ Seisnig gyda'r gwahaniaeth nad ar gyfer pendefigion na thirfeddianwyr Lloegr, a fu'n chwerthin ar ben ei gilydd ym myd ffasiwn a gwleidyddiaeth y bwriadwyd ef. Y werin Gymreig yn hytrach oedd cynulleidfa'r Punch Cymraeg, a bu ei olygyddion yn gwneud sbort am ben pawb a phopeth a fu'n galw am feirniadaeth wawdiol a choeglyd yng Nghymru'r cyfnod.

  • Y Geninen a Cyfaill yr Aelwyd

Mwy difrifol o ran cynnwys oedd Y Geninen (1883-1928) a roes gyfle i ysgrifenwyr o wahanol safbwyntiau draethu eu barn ar bynciau llenyddol, gwleidyddol a chymdeithasol. Bu John Thomas ('Eifionydd') yn gweithio yn swyddfa argraffu Eyre and Spottiswoode yn Llundain, ac roedd ymhlith y mwyaf profiadol o olygyddion ei gyfnod.

Roedd Beriah Gwynfe Evans hefyd yn olygydd profiadol, ac ef a sefydlodd Cyfaill yr Aelwyd(1881-94) fel misolyn poblogaidd. Cyhoeddwyd ynddo farddoniaeth, llenyddiaeth ac erthyglau ar wyddoniaeth a phynciau'r dydd.

  • Owen M Edwards

Cyfaill yr Aelwyd fu'n batrwm i Owen M Edwards pan lansiodd Cymru (1891-1927), un o gylchgronau mwyaf llwyddiannus y Gymraeg. Amcan Owen Edwards oedd trwytho'r Cymry yn hanes a diwylliant eu gwlad gan roi pwyslais arbennig ar arwyr a llenorion y genedl. Cyhoeddid ynddo hefyd luniau a ffotograffau, a chafodd gryn ddylanwad ar ieuenctid y cyfnod. Fel cenedlaetholwr diwylliannol gwnaeth Owen Edwards, a oedd yn arolygwr ysgolion, wasanaeth mawr i Gymru ar adeg argyfyngus yn hanes ei llenyddiaeth.

Ymhlith cylchgronau eraill a sefydlwyd ganddo mae:

  • Cymru'r Plant (1892-)
  • Seren y Mynydd(1895)
  • Y Llenor(1895-98)
  • Heddyw(1897)  
  • Wales (1894-97) ar gyfer y Cymry di-Gymraeg