Cylchgronau Crefyddol a Dirwestol

Dechreuwyd cyfnod newydd yn hanes y wasg gyfnodol Gymraeg pan gyhoeddwyd Trysorfa Ysprydoldan olygyddiaeth Thomas Charles o'r Bala a Thomas Jones o Ddinbych ym 1799.

Trysorfa Ysprydol

Ffrwyth diwygiad crefyddol y 18fed ganrif oedd Trysorfa Ysprydola'r cyhoeddiad hwn mewn gwirionedd oedd y cylchgrawn crefyddol ac enwadol cyntaf yn Gymraeg.

Roedd angen deunydd darllen ar bregethwyr teithiol ac ar athrawon a disgyblion yr ysgolion Sul, a bu Trysorfa Ysprydolyn gyfrwng i drosglwyddo gwybodaeth i'r rhain. Serch hynny cymharol fyr bu bywyd pob un o'r cyfnodolion Cymraeg hyn a gyhoeddwyd yn niwedd y 18fed ganrif ac yn negawd cyntaf y 19eg ganrif. Roedd anawsterau dosbarthu a gwerthu'r rhifynnau, yn ogystal â phris uchel papur yn golygu cryn fenter ar ran golygydd a chyhoeddwr.

Yr Eurgrawn Wesleyaidd

Prin felly y disgwylid Yr Eurgrawn Wesleyaiddlwyddo pan sefydlwyd ef ym 1809, ond yr hyn sy'n syndod yw i'r Eurgrawn ymddangos yn fisol o 1809 hyd 1962 pan droes yn gylchgrawn chwarterol, a pharhawyd i'w gyhoeddi fel chwarterolyn hyd 1983.

Seren Gomer

Ni bu'r enwadau crefyddol eraill yn hir cyn sylweddoli'r angen am gylchgronau a chyfnodolion i ledaenu eu neges. Sefydlwyd Seren Gomerfel newyddiadur wythnosol ar ddydd Calan 1814 a pharhaodd i ymddangos tan fis Awst 1815 pan ddaeth i ben oherwydd diffyg cefnogaeth. Ailgychwynnwyd Seren Gomer

Goleuad Cymru, Y Drysorfa a Y Dysgedydd

Bu Goleuad Cymrua sefydlwyd ym 1818, ac Y Drysorfaa ymddangosodd gyntaf ym 1831, yn gwasanaethu'r Methodistiaid Calfinaidd. Ym 1821 cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o'r Y Dysgedydd a dderbyniai nawdd yr Annibynwyr.

Yr Ymofynydd

Ym 1847 y mentrodd yr Undodiaid i'r maes pan sefydlwyd Yr Ymofynyddfel cylchgrawn misol. Er mai bylchog fu ei ymddangosiad yn ystod y ganrif ddiwethaf, hwn bellach yw'r unig gylchgrawn enwadol a sefydlwyd cyn 1850 y parheir i'w gyhoeddi heddiw.

Yr Haul ac Y Diwygiwr

Ar ôl methu fel gweinidog gyda'r Bedyddwyr a'r Annibynwyr troes David Owen (Brutus) at y wasg Gymraeg am ei gynhaliaeth. Bu'n olygydd 2 gylchgrawn Ymneilltuol cyn ymuno â'r Eglwys Sefydledig ac yn y man fe'i penodwyd yn olygydd YrHaul, cylchgrawn enwadol ac eglwysig a sefydlwyd ym 1835.

Sefydlwyd Y Diwygiwr hefyd yn 1835, fel misolyn Annibynwyr y de, a David Rees, un o weinidogion yr enwad yn Llanelli yn brif olygydd iddo. Cynrychiolai'r 2 gylchgrawn dueddiadau gwleidyddol a chrefyddol pur wahanol. Safai David Owen dros Dorïaeth a'r Eglwys Sefydledig yn ‘Yr Haul’,ac roedd David Rees, a arddelai arwyddair y Gwyddel Daniel O'Connell 'Cynhyrfer! Cynhyrfer! Cynhyrfer!' yr un mor gadarn ei safiad dros radicaliaeth ac ymneilltuaeth. Yr oedd y ddau yn olygyddion galluog a bu brwydro cyson rhyngddynt ar dudalennau'r 2 gylchgrawn.

Y Gwyliedydd

Roedd Y Gwyliedyddyn gylchgrawn nodedig a gyhoeddwyd gan ddyrnaid o glerigwyr llengar rhwng 1822 a 1837. Derbyniai ‘Y Gwyliedydd’ nawdd yr Eglwys Sefydledig ac 'roedd ei safonau'n wahanol i'r rhelyw o gylchgronau’r cyfnod, oblegid cyhoeddwyd ynddo erthyglau ar lenyddiaeth Gymraeg a hynafiaethau Cymru.

Cyhoeddiad nid annhebyg oedd Y Gwladgarwra ymddangosodd rhwng 1833 a 1841 dan olygyddiaeth Evan Evans ('Ieuan Glan Geirionydd'). Ym 1830 gyrrodd Ieuan lythyr at yr esgobion Cymreig yn gofyn am eu nawdd i gyhoeddi cylchgrawn ar gynllun The Saturday Magazine gyda'r amcan o ddarparu gwybodaeth gyffredinol i'r Cymry. O ganlyniad i'w apêl cyhoeddwyd 102 rhifyn o'r ‘Gwladgarwr’ a oedd yn gylchgrawn eang ei ddiddordebau ac ynddo erthyglau sylweddol ar seryddiaeth, amaethyddiaeth, daearyddiaeth ac elfennau cerddoriaeth.

Cylchgronau dirwestol

Yr enwadau crefyddol hefyd a fu'n noddi cylchgronau'r mudiad dirwestol, a ddaeth i'w lawn dwf yng Nghymru yn ystod yr 1830au a’r 1840au. Yn America y sefydlwyd y mudiad ond lledodd ei ddylanwad dros Fôr Iwerydd a ffurfiwyd nifer o gymdeithasau dirwestol yng Nghymru yn ystod y 1830au cynnar.

Tyfodd y galw am lenyddiaeth ddirwestol, a sefydlwyd nifer o gyfnodolion i wasanaethu'r mudiad megis:

  • Y Dirwestydd(1836)
  • Y Seren Ddirwestol (1837)
  • Dirwestwr deheuol(1838)

Nid oedd pawb o blaid y mudiad newydd, ac ym 1838 sefydlodd William Williams ('Caledfryn') gylchgrawn yn dwyn y teitl Yr Adolygyddgyda'r amcan o amddiffyn cymedroldeb a difrïo'r arfer o lwyrymwrthod.

Cylchgronau'r Mormoniaid Cymreig

O'r America hefyd y lledodd mudiad y Mormoniaid. Fe gafodd y mudiad droedle mewn rhannau o Gymru yng nghanol y 19eg ganrif, a bu gan nifer o Gymry ran amlwg yn nhwf a datblygiad y mudiad.

Roedd Dan Jones, brodor o Wrecsam, yn gapten y llong-ager y ‘Maid of Iowa’, a gludai deithwyr rhwng New Orleans a St. Louis ar afon Mississippi. Ar un o'r teithiau hyn y daeth i gysylltiad â'r brodyr Joseph a Hyrum Smith, sefydlwyr Eglwys Iesu Grist o Saint y Dyddiau Diwethaf. Yn y man ymunodd Dan Jones yntau â'r Mormoniaid, a threuliodd gyfnodau yng Nghymru yn cenhaduar ran y mudiad. Cyhoeddodd doreth o ddefnyddiau yn Gymraeg i ledaenu'i neges, gan gynnwys 2 gylchgrawn, sef Prophwyd Jubili(1846-48) ac Udgorn Seion(1849-62). Mae i'r 2 gyhoeddiad fel ei gilydd gryn bwysigrwydd yn hanes cynnar yr eglwys.