Cylchgronau Cerddorol

Gellir ystyried ail hanner y 19eg ganrif fel oes aur canu cynulleidfaol. Gwelwyd sefydlu nifer o gylchgronau cerddorol i hyrwyddo'r diddordeb cynyddol hwn mewn cerddoriaeth.

Yr oedd John Roberts ('Ieuan Gwyllt') ymhlith y pwysicaf o gerddorion y cyfnod. Bu'n weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac ar un adeg bu'n golygu 2 bapur newydd, - Yr Amserau yn Lerpwl ac Y Gwladgarwr yn Aberdâr.

John Roberts oedd sefydlydd Blodau Cerddhefyd, ac er nad oedd yn gylchgrawn yn yr ystyr dechnegol, cyhoeddwyd 5 rhifyn ohono rhwng mis Gorffennaf 1852 a mis Ionawr 1853. Ef hefyd a sefydlodd Y Cerddor Cymreig, 1861-1873, a Cerddor y Tonic Sol-ffa, 1869-1874. Ymhlith cylchgronau cerddorol eraill gellir rhestru Y Gerddorfa, 1872-1881, a Greal y Corau1861-1863.

Erbyn diwedd y ganrif felly, roedd cynnyrch y wasg gylchgronol yng Nghymru yn eang ac amrywiol. Nid cyhoeddiadau cenedlaethol yn unig mohonynt, cyhoeddwyd llu o gylchgronau o natur leol yn ogystal, a'r rheini'n gwasanaethu plwyfi, eglwysi, capeli a chymdeithasau.