Symud i'r prif gynnwys

Chwilio’r casgliad

Mae’r monograffau, blwyddlyfrau a chyfnodolion diweddar wedi eu catalogio’n llawn a gellir eu canfod drwy chwilio’r OPAC ond ni chofnodir daliadau cyn 1986 ar gyfer nifer o gyhoeddiadau monograff a chyfresol (gan gynnwys blwyddlyfrau a bwletinau ystadegol). Mae cyhoeddiadau o’r fath yn cael eu rhoi ar y silff yn ôl teitl yng Nghasgliad y Cenhedloedd Unedig a gellir eu pori ar gais. Mae’r gwaith i’w ychwanegu i’r OPAC yn parhau.

Ni chofnodir daliadau papurau gweithio y Cenhedloedd Unedig; mae cyhoeddiadau o’r fath yn cael eu rhoi ar y silff yn ôl rhif dogfen y Cenhedloedd Unedig.

Gellir archebu eitemau o flaen llaw oni bai bod darllenydd arall eisoes wedi gwneud cais am yr eitem.

Y Cenhedloedd Unedig

Mae’r llyfrgell yn derbyn deunydd a gyhoeddwyd gan gyrff canlynol y Cenhedloedd Unedig, yn cynnwys cyfnodolion, monograffau a phapurau sesiynol:
 

  • Y Cynulliad Cyffredinol
  • Y Cyngor Diogelwch
  • Y Cyngor Economaidd a Chymdeithasol
  • Yr Ysgrifenyddiaeth

Derbyniodd y Llyfrgell gyhoeddiadau'r Cyngor Ymddiriedolaeth hyd nes ei atal yn 1994.

Cyhoeddir adroddiadau blynyddol cyrff ac asiantaethau atodol y Cenhedloedd Unedig fel atodiadau i Gofnodion Swyddogol y Cynulliad Cyffredinol.

Derbynnir cyhoeddiadau monograff a chyfnodolion hefyd gan asiantaethau Cenhedloedd Unedig eraill megis Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), Sefydliad Morol Rhyngwladol (IMO), Swyddfa Llafur Rhyngwladol/International Labour Office (ILO), Banc y Byd, Y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF)  a Chronfa Blant y Cenhedloedd Unedig (UNICEF). Mae monograffau a chyfnodolion o’r Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol (IAEA) hefyd yn cael eu hadnau ynghyd â phapurau sesiynol y Gynhadledd Gyffredinol o Sesiwn 4 (1960).

Mae casgliad o bapurau Cynghrair y Cenhedloedd o’r cyfnod 1920-1939.

Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop

Mae’r Llyfrgell yn dal amrywiol ddogfennau o Gynulliad Seneddol Cyngor Ewrop o 1949

  • Adroddiad Swyddogol y Cynulliad Ymgynghorol 1949-1974
  • Adroddiad Swyddogol y Cynulliad Seneddol 1974 - 2006
  • Adroddiad Swyddogol y Cynulliad Seneddol (CD Rom) 2006 –
  • Testunau a Fabwysiadwyd 1953 – 2003
  • Trefn y Dydd a Chofnodion Trafodion 1950 – 2003
  • Dogfennau 1951 -


Mae’r Cynulliad Seneddol yn cwrdd 4 gwaith y flwyddyn ym mis Ionawr (Sesiwn 1af), Ebrill (2il Sesiwn) Mehefin (3ydd Sesiwn) a Hydref (4ydd Sesiwn) gyda’r Cofnod a Dogfennau Swyddogol a’r Papurau Gweithredol yn cael eu trefnu mewn cyfrolau yn ôl y sesiwn.

Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD)

Mae’r Llyfrgell yn dal nifer o gyhoeddiadau cyfresol a monograff yn cynnwys adroddiadau a bwletinau ystadegol. Nid yw daliadau cyn 1986 ar gyfer nifer o gyhoeddiadau cyfresol a monograff (gan gynnwys blwyddlyfrau a bwletinau ystadegol) wedi eu cofnodi er bod cyhoeddiadau o’r fath yn cael eu rhoi ar y silff yn ôl teitl yng nghasgliad yr OECD.

Y Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop (OSCE)

Mae’r Llyfrgell yn dal papurau gan amrywiol cyrff yr OSCE gan gynnwys:

  • Y Cyngor Parhaol
  • Y Fforwm Economaidd
  • Y Fforwm ar gyfer Cydweithrediad ar y Gwasanaethau Diogelwch
  • Y Fforwm ar gyfer Cydweithrediad Diogelwch
  • Y Cyngor Gweinidogaethol
  • Yr Ysgrifennydd Cyffredinol
  • Y Swyddfa ar gyfer Sefydliadau Democrataidd a Hawliau Dynol (OHDIR)

Nid yw’r papurau hyn ar gael yn OPAC eto.

Arlein

Gellir cael mynediad i adnoddau allanol arlein ar y dudalen Tanysgrifiadau.