Printiau Tirlun
Cynnwys Casgliad Printiau Tirlun dros 14,000 o brintiau, yn bennaf o olygfeydd Cymreig. Gellir dyddio’r mwyafrif rhwng 1750 a 1850, ond ceir printiau cynharach yn y casgliad. Dengys y casgliad ddatblygiad y print nes ei ddisodli gan y ffotograff ym mlynyddoedd diweddar y 19eg ganrif.
Uchafbwyntiau
- Ymhlith y prif engrafwyr cynnar oedd y brodyr Samuel a Nathaniel Buck, a gynhyrchodd olygfeydd o gestyll, mynachlogydd, abatai a hynafiaethau eraill ynghyd â nifer o olygfeydd o drefi, 1740–42. Mae cyfres gyflawn o’u gwaith yng Nghymru ac yn Lloegr yn y casgliad.
- Printiau acwatint sepia gwych Paul Sandby o olygfeydd yng Nghymru (Views in Wales, 1755) oedd y rhai cyntaf i’w cyhoeddi yng Ngwledydd Prydain, a’r golygfeydd Cymreig cyntaf i gael sylw eang.
- Gwelir yr enghreifftiau gorau o acwatint lliw yn ‘A Voyage Round Great Britaingan Richard Ayton a William Daniel, 1813. William Daniel oedd yn gyfrifol am y printiau.
- Cyhoeddwyd Rivers of Wales, J G Wood yn 1813. Ymhlith ysgythriadau Wood mae gweithfeydd haearn Cyfarthfa a Phenydarren ynghyd a gweithfeydd copr Treforys.
- Ymddangosodd golygfeydd acwatint Edward Pugh yn ‘Cambria Depicta’ yn 1816. Yma ceir darluniau o weithfeydd copr Mynydd Parys, Ynys Môn.
- Hugh Hughes oedd yn gyfrifol am ‘The Beauties of Cambria(1823); darluniwyd hwn gan engrafiadau pren.
- Lluniau cyfarwydd iawn yw’r engrafiadau dur a wnaed gan Henry Gastineau ar gyfer ‘WalesIllustrated’ (1831).
Printiau modern
Ymhlith yr arlunwyr modern a gynrychiolir yn y casgliad printiau ceir:
- Ysgythriadau o Gwm Rhondda gan George Chapman yn adlewyrchu ei ddiddordeb ym mywyd beunyddiol cymunedau glofaol Cymru
- Adar a byd natur C F Tunnicliffe
- Ysgythriadau pren Colin See-Paynton
- Augustus John
- ‘Beethoven Suite’ gan Ceri Richards a gwaith ar y cyd gyda’r bardd Vernon Watkins ‘Immagini E Testi (3)’, ‘Elegiac Sonnet’
- Tirluniau Ian Phillips
Mae’r Llyfrgell yn parhau i gasglu printiau topograffig cyfoes o ddiddordeb Cymreig.
Gweddill y byd
Er mai eitemau Cymreig yn aml yw pwyslais casgliad printiau'r Llyfrgell, mae llawer iawn o gyfrolau yn ymdrin â gwledydd Prydain yn gyffredinol neu'n ymwneud â thestunau arbennig - er enghraifft:
- Lithograffau'r Fonesig Llanofer o'r wisg Gymreig yn 1834
- Printiau gan yr arlunwyr Rembrandt a Whistler a ddaeth i’r Llyfrgell fel cymynrodd y chwiorydd Davies, Gregynog
Gallwch wedi ein printiau ar y catalog arlein.