Cerddoriaeth Draddodiadol Cymru
Y man cychwyn ar gyfer astudiaeth o gerddoriaeth draddodiadol Cymru yma yn y Llyfrgell Genedlaethol yw’r cyfrolau a ganlyn:
- yn Ystafell Ddarllen y Gogledd, ceir copi o gyfrol werthfawr Wyn Thomas, Cerddoriaeth Draddodiadol yng Nghymru: Llyfryddiaeth (3ydd argraffiad, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 2006), sy’n rhestru'r prif weithiau printiedig ym maes cerddoriaeth draddodiadol Cymru, a cheir yno hefyd gopi arnodedig o waith J.H. Davies, A Bibliography of Welsh Ballads printed in the 18th century (London, 1908-11)
- yn Ystafell Ddarllen y De, ceir copi o waith anghyhoeddedig Wyn Thomas a Phyllis Kinney, Mynegai i Lawysgrifau Perthnasol i Faes Cerddoriaeth Draddodiadol yng Nghymru (Rhagfyr 1981), sy’n fan cychwyn ar gyfer canfod adnoddau cerddorol gwerin di-brint yn ein casgliadau.
Mae’r adnoddau canlynol ar gael yn ddigidol.
Llawysgrifau alawon gwerin
Digidwyd eisoes dair llawysgrif bwysig o waith John Jenkins (Ifor Ceri, 1770–1829), sef:
Am gefndir y rhain, gweler ysgrifau print pwysig Daniel Huws, ‘Melus-Seiniau Cymru’, Canu Gwerin (Folk Song), 8 (1985), 32-50, a 9 (1986), 47-57.
Archifau’n cynnwys alawon a chaneuon gwerin
Conglfaen ein casgliadau di-brint o alawon gwerin Cymru yw papurau’r unigolion hynny fu’n ymwneud â chasglu caneuon, ac â dehongli’r traddodiad, yn ystod yr ugeinfed ganrif, yn eu plith:
Bu nifer o’r uchod yn gysylltiedig â Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru, ac mae archif y gymdeithas honno yn y Llyfrgell hefyd:
Welsh Folk-Song Society Records
Cerdd dant
Cymharol brin yw’r archifau hynny sy’n ymwneud â’n traddodiad o ganu penillion, a gobeithiwn ehangu ein casgliadau yn y maes hwn yn ystod y blynyddoedd nesaf. Yma eisoes y mae:
Datgeiniaid llais ac offeryn
Yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, yma yn y Llyfrgell, y disgwylid canfod cynnyrch mwyafrif datgeiniaid gwerin y genedl, ond ymysg yr archifau, ceir hefyd gasgliadau:
Adnoddau printiedig arlein
Yn 2016, yn sgil cyfraniad ariannol hael gan Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru, digidwyd y casgliadau printiedig cynnar a ganlyn gan y Llyfrgell:
- John Parry (Rhiwabon) & Evan Williams, Antient British Music ... (London, 1742)
- John Parry, A Collection of Welsh, English & Scotch Airs ... (London, 1761)
- John Parry, British Harmony ... (London and Ruabon, 1781)
- Edward Jones (Bardd y Brenin), Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards ... (London, 1784)
- Edward Jones, Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards ... (London, 1794)
- Edward Jones, The Bardic Museum, of primitive British literature ... (London, 1802)
- Edward Jones, Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards ...(London, 1825)
- Edward Jones, Hên Ganiadau Cymru. Cambro-British melodies ... (London, 1825)
- John Parry (Bardd Alaw), The Welsh Harper ... (London, 1839 & 1848)
- Nicholas Bennett, Alawon fy Ngwlad. The Lays of my Land ... (Newtown, 1896)
Baledi a cherddi
Er mwyn canfod geiriau caneuon Cymraeg, yn y mesurau caeth neu rydd, yn ein casgliadau, mae dwy gronfa electronig i’w chwilio ar wefan y Llyfrgell:
- Baledi Cymru Ar-lein, sy’n cynnwys tua 4,000 o faledi wedi'u digido, yn dyddio yn bennaf o'r ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a hynny o gasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol a Llyfrgell Prifysgol Caerdydd
- Y Mynegai i Farddoniaeth y Llawysgrifau (MALDWYN gynt), sy’n cynnwys cyfeiriadau at filoedd o gerddi Cymraeg, caeth a rhydd, a ysgrifennwyd mewn llawysgrifau cyn 1830, llawysgrifau sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol ac mewn sefydliadau eraill.
Adnoddau eraill
Cyfeirir ymchwilwyr at yr adnoddau digidol dethol a ganlyn:
- gwefan Corff y Gainc, sy’n cynnwys alawon traddodiadol o lawysgrifau a ffynonellau print, wedi eu cyflwyno gan y gitarydd Chris Grooms
- detholiad o ganeuon gwerin o archifau sain Amgueddfa Cymru
- gwefan chwiliadwy The Full English, dan nawdd yr English Folk Dance and Song Society, sy’n cynnwys nifer o ganeuon gwerin Cymraeg a Chymreig.
Cynlluniau’r dyfodol
Yn ystod 2017-2020, dan nawdd Bwrdd y Llyfrgell, rhoddir blaenoriaeth i gatalogio nifer o’r casgliadau cerddorol pwysig sydd wedi eu derbyn yn ddiweddar, gan gynnwys casgliad Papurau Meredydd Evans a Phyllis Kinney. Fel rhan o’r gwaith hwn, cynllunnir cronfa electronig newydd i roi mynediad at ganeuon ac alawon Cymreig, yn y Llyfrgell a’r tu hwnt. Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn yn y man.