Papurau Syr John Rhŷs: llythyrau a chardiau oddi wrth Whitley Stokes, 1871-1909
(A1/3/5)
Fel rhan o'r digwyddiadau i nodi canmlwyddiant marwolaeth Syr John Rhŷs yn 2015, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi digido cyfres gyfoethog o dros 320 o lythyrau a chardiau oddi wrth Whitley Stokes at John Rhŷs (1871-1909).
Mae'r ohebiaeth wedi ei dalennu a’i rhannu yn 3 ffolder a 3 bwndel ac fe'i cyflwynir yn y syllwr yn y drefn a ganlyn:
Llythyrau a chardiau oddi wrth Whitley Stokes at John Rhŷs (ff. 1-364)
Deunydd arall (ff.365-414)
- Ffolios 365-368: pedwar llythyr at John Rhŷs, [1875x1876], oddi wrth William Stokes [ffolder A1/3/5(vi)]
- Ffolios 369-372: tri llythyr, 1875, 1893, a heb ddyddiad, oddi wrth Margaret Stokes [ffolder A1/3/5(vi)]
- Ffolios 373-386: copi o ‘The Irish passages in the Stowe Missal’ (Calcutta, 1881), a olygwyd gan Whitley Stokes [ffolder A1/3/5(vi)]
- Ffolios 387-390: erthygl Charles Plummer, sef 'Notes on the Stowe Missal' (1885) [ffolder A1/3/5(vi)]
- Ffolios 391-395: tri llythyr, 1883, wedi eu cyfeirio at Charles Plummer oddi wrth Whitley Stokes [ffolder A1/3/5(vi)]