Bydd archifau llenyddol y dyfodol yn cynnwys dogfennau cyfrifiadurol, negeseuon e-bost, tudalennau o’r we ac ati, yn ogystal â phapurau a llyfrau. Mae newidiadau cyflym technoleg yn cynnig amryfal ddewisiadau a phrofiadau i ni yn ein bywydau beunyddiol, ond mae’r sefyllfa hon hefyd yn creu her arbennig wrth feddwl am ddiogelu ein treftadaeth ddiwylliannol.
Gellir gweld adroddiad terfynol Prosiect Archif Llenyddiaeth Cymru yn y golofn dde.
Cewch flas o waith y prosiect o edrych ar codi ymwybyddiaeth a taflenni ac erthyglau.
Cymerwch gip ar ein canllawiau ar gyfer awduron a dolenni defnyddiol.
Mae croeso i chi gysylltu ag Ifor ap Dafydd, Swyddog Datblygu Archif Llenyddiaeth Cymru; hoffem glywed eich barn. cof(at)llgc.org.uk neu +44 (0) 01970 632 543