Symud i'r prif gynnwys

Mae’r Llyfrgell wedi casglu papurau a llawysgrifau:

  • beirdd
  • llenorion
  • dramodwyr
  • archdderwyddon
  • newyddiadurwyr
  • ysgolheigion

a ddaeth yn amlwg yn ystod yr 20fed ganrif.

Beth am weld copi drafft o nofel fwyaf poblogaidd yr 20fed ganrif, Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis, neu ddrafft o Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames, a Chyfres Rwdlan gan Angharad Tomos?

Beth am ddarllen llythyrau Saunders Lewis at Kate Roberts, neu lythyrau at Rydwen Williams ac Alwyn D Rees pan oeddynt yn golygu ‘Barn’? Beth am weld dyddiaduron Caradog Prichard neu Euros Bowen?

Ceir amrywiaeth eang o farddoniaeth, megis copi llawysgrif o Caniadau Gwili, copïau yn llaw R Williams Parry o Cerddi’r Gaeaf, copi llawysgrif o awdl fuddugol Y Mynach gan Gwenallt, ac awdl Y Mynydd gan T H Parry-Williams.

Rhai o awduron amlycaf y casgliadau