Symud i'r prif gynnwys

Ionawr 2025

Diwrnod Braille y Byd

Diwrnod Braille y Byd

04 Ion 2025

Mae Diwrnod Braille y Byd yn cael ei ddathlu i anrhydeddu dyfeisiwr Braille, Louis Braille, a phwysigrwydd Braille fel arf cyfathrebu a grymuso i rai sydd â nam ar eu golwg.

Gweld mwy

Diwrnod Ymwybyddiaeth Masnachu Pobl

Diwrnod Ymwybyddiaeth Masnachu Pobl

11 Ion 2025

Nodir y diwrnod hwn er mwyn codi ymwybyddiaeth bellach o fater parhaus masnachu pobl ac atal y troseddau sy'n gysylltiedig ag ef yn fyd-eang.

Gweld mwy

Dydd Martin Luther King

Dydd Martin Luther King

15 Ion 2025

Mae Diwrnod Martin Luther King Jr yn ŵyl ffederal yn yr Unol Daleithiau sy'n nodi pen-blwydd Martin Luther King Jr a frwydrodd dros hawliau dynol ac urddas pawb, a'r cyfraniad wnaed gan ei etifeddiaeth tuag at geisio sicrhau byd cyfiawn a theg.

Gweld mwy

Diwrnod Crefydd y Byd

Diwrnod Crefydd y Byd

19 Ion 2025

Mae Diwrnod Crefydd y Byd yn tarddu o’r egwyddorion Bahá’í o unplygrwydd crefydd a'i ddatguddiad blaengar, sy’n disgrifio crefydd fel rhywbeth sy’n datblygu’n barhaus ar hyd y cenedlaethau. Pwrpas Diwrnod Crefydd y Byd yw amlygu’r syniadau bod yr egwyddorion ysbrydol sydd wrth wraidd crefyddau’r byd yn gytûn, a bod crefyddau yn chwarae rhan bwysig wrth uno dynoliaeth.

Gweld mwy

Diwrnod Rhyngwladol Addysg

Diwrnod Rhyngwladol Addysg

24 Ion 2025

Mae Diwrnod Rhyngwladol Addysg yn cael ei nodi i ddathlu rôl addysg er mwyn sicrhau heddwch, datblygiad a chreu cyfleoedd i ddynolryw fyw i'w llawn botensial.

Gweld mwy

Diwrnod Cofio'r Holocost

Diwrnod Cofio'r Holocost

27 Ion 2025

Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn ddiwrnod coffa rhyngwladol i ddioddefwyr yr Holocost, a arweiniodd at hil-laddiad traean o Iddewon, ynghyd ag aelodau di-rif o leiafrifoedd eraill, gan yr Almaen Natsïaidd rhwng 1933 a 1945.

Gweld mwy

Diwrnod Gwahanglwyf y Byd

Diwrnod gwahanglwyf y Byd

28 Ion 2025

Mae'r gwahanglwyf yn glefyd trofannol sydd wedi'i esgeuluso ond sy'n dal i ddigwydd mewn mwy na 120 o wledydd, gyda mwy na 200 000 o achosion newydd yn cael eu hadrodd bob blwyddyn. Mae'r diwrnod hwn yn cael ei goffáu er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r gwahanglwyf neu glefyd Hansen.

Gweld mwy

Chwefror 2025

Daniel a John Evans

Diwrnod Canser y Byd

04 Chwef 2025

Mae'r diwrnod hwn yn cael ei nodi'n rhyngwladol er mwyn parhau i godi ymwybyddiaeth o ganser a hefyd i annog ei ganfod, ei atal a'i drin.

Gweld mwy

Diwrnod Cyfiawnder Cymdeithasol y Byd

Diwrnod Cyfiawnder Cymdeithasol y Byd

20 Chwef 2025

Mae Diwrnod Cyfiawnder Cymdeithasol y Byd yn ddiwrnod rhyngwladol o ymwybyddiaeth i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol megis tlodi, allgáu, anghydraddoldeb rhyw, diweithdra, hawliau dynol, hunaniaeth rywiol a rhagfarn fiolegol a rhagfarn grefyddol.

Gweld mwy

Mawrth 2025

Paul Peter Piech, 'Racism is a Poison, © Ystâd yr Artist

Diwrnod Dim Gwahaniaethu

01 Maw 2025

Nod Diwrnod Dim Gwahaniaethu yw hyrwyddo cydraddoldeb a thynnu sylw at sut y gall pobl magu gwell dealltwriaeth o'r ffaith fod pawb yn haeddu byw bywyd llawn a chynhyrchiol. Mae'r diwrnod hwn yn cael ei goffáu er mwyn hyrwyddo cynhwysiant, tosturi a heddwch.

Gweld mwy