Beth welwch chi yn y calendar?
Dechreuwyd y calendar hwn o ganlyniad i Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru.
Mae'n nodi digwyddiadau crefyddol, diwylliannol, ymwybyddiaeth, amrywiaeth, coffa a gwyliau banc. Mae’r digwyddiadau yn y calendar yn cysylltu ac yn arddangos yr eitemau amrywiol yng nghasgliad gwych y Llyfrgell.