Symud i'r prif gynnwys

Gorffennaf 2025

Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru

Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru

21 Gorff 2025 - 24 Gorff 2025

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad amaethyddiaeth a’r economi wledig yng Nghymru ers dros ganrif. Cynhelir Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru gan y gymdeithas gyda phedwar diwrnod o gystadlaethau da byw a cheffylau ac amrywiaeth o weithgareddau sydd o ddiddordeb i bawb.

Gweld mwy

Pen-blwydd yr Ymerawdwr Haile Selassie (Rastafari)

Pen-blwydd yr Ymerawdwr Haile Selassie (Rastafari)

23 Gorff 2025

Ganwyd Haile Selassie I ar 23 Gorffennaf, 1892, a bu’n ymerawdwr Ethiopia o 1930 i 1974. Mae’n fawr ei barch gan nifer o Rastafari, ac mae ei ben-blwydd yn un o'r dathliadau arwyddocaol yng nghymunedau Rastafari.

Gweld mwy

Awst 2025

Tish’a B’av

Tish'a B'av (Iddewiaeth)

02 Awst 2025 - 03 Awst 2025

Mae Tisha B'Av yn ddiwrnod ympryd blynyddol mewn Iddewiaeth, ac mae'n cael ei ystyried fel y diwrnod tristaf yn y calendr Iddewig. Fe'i defnyddir i gofio’r holl drychinebau sydd wedi digwydd i'r bobl Iddewig fel yr holocost a dinistr teml Solomon. Mae'n cael ei ystyried yn ddiwrnod o alaru.

Gweld mwy

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

02 Awst 2025 - 09 Awst 2025

Eisteddfod Genedlaethol Cymru yw'r fwyaf o'r eisteddfodau niferus a gynhelir yng Nghymru’n flynyddol. Ystyrir hi fel yr ŵyl gerddoriaeth a barddoniaeth fwyaf yn Ewrop gyda thua 150,000 o ymwelwyr a thros 250 o stondinau masnach. Mae'r ŵyl yn teithio bob yn ail rhwng gogledd a de Cymru. Mae’n ddilysnod i ddathlu celf, iaith a diwylliant Cymru sy’n dyddio’n ôl i 1176.

Gweld mwy

Diwrnod Rhyngwladol Pobl Gynhenid ​​y Byd

Diwrnod Rhyngwladol Pobl Gynhenid ​​y Byd

09 Awst 2025

Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Pobl Gynhenid y Byd yn flynyddol i ddeffro ymwybyddiaeth, amddiffyn hawliau ac amgylchedd cymunedau brodorol ledled y byd. Yn ôl y cenehedloedd unedig, mae 476 miliwn o bobloedd brodorol yn y byd yn byw ar draws 90 o wledydd.

Gweld mwy

Medi 2025

Dydd Owain Glyndŵr

Diwrnod Owain Glyndŵr

16 Medi 2025

Mae Owain Glyndŵr yn arwr cenedlaethol Cymreig a Thywysog brodorol olaf Cymru. Dethlir y diwrnod i goffau ei etifeddiaeth a'i arweiniad a roddodd lais i bobl Cymru.

Gweld mwy

Diwrnod Ieithoedd Ewrop

Diwrnod Ieithoedd Ewrop

26 Medi 2025

Cynhelir Diwrnod Ieithoedd Ewrop er mwyn hybu ymwybyddiaeth fyd-eang o bwysigrwydd dysgu ieithoedd a gwarchod traddodiadau ieithyddol.

Gweld mwy

Hydref 2025

Mis Hanes Pobl Dduon

Mis Hanes Pobl Dduon

01 Hyd 2025 - 31 Hyd 2025

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ddigwyddiad blynyddol sy'n tarddu o Unol Daleithiau America. Fe'i nodir i ddathlu diwylliant Affrica a'i chyfraniadau i gymdeithas.

Gweld mwy

Diwali

Diwali

17 Hyd 2025

Mae Diwali, a elwir hefyd yn Ŵyl y Goleuadau, yn symbol ysbrydol o "fuddugoliaeth y da dros ddrygioni, ymwybyddiaeth dros anwybodaeth a golau dros dywyllwch". Mae'n un o wyliau mwyaf arwyddocaol crefyddau Indiaidd.

Gweld mwy

Calan Gaeaf

Calan Gaeaf

31 Hyd 2025

Calan Gaeaf Hapus!

Gweld mwy