Symud i'r prif gynnwys

Mai 2025

Dydd Bodhi

Vesak, Diwrnod Bwdha (Bwdaidd)

12 Mai 2025

Mae Vesak yn ŵyl sy'n cael ei nodi gan Fwdhyddion mewn sawl rhan o'r byd. Fe'i gelwir hefyd yn Bwdha Jayanti, Bwdha Purnima, Diwrnod Bwdha. Dyma'r ŵyl Fwdhaidd bwysicaf yn y calendr, ac mae addurno a rhoi offrymau yn y deml yn rhan ohoni.

Gweld mwy

Diwrnod Sant Sara

Diwrnod Sant Sara (Roma)

24 Mai 2025

Santes Sara, a elwir hefyd yn Sara-la-Kâli neu Sara Ddu yw nawddsant y Romani a' phobl sydd wedi'u dadleoli. Dywedir ei bod yn llawforwyn Eifftaidd i Mair Magdalen.

Gweld mwy

Merthyrdod Guru Arjan Dev Sahib

Merthyrdod Guru Arjan Dev Sahib (Sikh)

30 Mai 2025

Mae merthyrdod Guru Arjan Dev Sahib, sef dathliad o'i fywyd a'r aberth a wnaeth dros y Sikhiaid yn cael ei nodi'n flynyddol. Mae'r dathliadau yn cynnwys darllen llyfr sanctaidd y Sikhiaid, mynd ar orymdeithiau, rhannu melysion.

Gweld mwy

Mehefin 2025

Eid Al Adha

Eid Al Adha (Islam)

06 Meh 2025 - 10 Meh 2025

Dethlir Eid al-Adha ,a elwir hefyd yn wledd aberth ,sy'n cael ei dathlu gan Fwslemiaid ledled y byd. Mae'r dathliadau yn cynnwys mynychu'r gweddïau arbennig a gynhelir mewn mosgiau mawr a chanolfannau Islamaidd.

Gweld mwy

Pentecost

Pentecost (Cristnogol)

08 Meh 2025

Dethlir y Pentecost hanner can niwrnod ar ôl y Pasg gan Gristnogion ledled y byd. Mae'n coffáu disgyniad yr Ysbryd Glân ar apostolion Iesu Grist.

Gweld mwy

Corpus Cristi

Corpus Cristi (Cristnogol)

19 Meh 2025

Gelwir Gŵyl Corpws Christi hefyd yn Ddifrifoldeb Corff a Gwaed Sancteiddiolaf Crist. Mae'n un o wyliau Eglwysi Uniongred, Lwtheraidd, Anglicanaidd a Lladin y Gorllewin a ddethlir er parch i ddwyfoldeb a phresenoldeb Iesu yn y Cymun sanctaidd.

Gweld mwy

Gorffennaf 2025

Pen-blwydd yr Ymerawdwr Haile Selassie (Rastafari)

Pen-blwydd yr Ymerawdwr Haile Selassie (Rastafari)

23 Gorff 2025

Ganwyd Haile Selassie I ar 23 Gorffennaf, 1892, a bu’n ymerawdwr Ethiopia o 1930 i 1974. Mae’n fawr ei barch gan nifer o Rastafari, ac mae ei ben-blwydd yn un o'r dathliadau arwyddocaol yng nghymunedau Rastafari.

Gweld mwy

Awst 2025

Tish’a B’av

Tish'a B'av (Iddewiaeth)

02 Awst 2025 - 03 Awst 2025

Mae Tisha B'Av yn ddiwrnod ympryd blynyddol mewn Iddewiaeth, ac mae'n cael ei ystyried fel y diwrnod tristaf yn y calendr Iddewig. Fe'i defnyddir i gofio’r holl drychinebau sydd wedi digwydd i'r bobl Iddewig fel yr holocost a dinistr teml Solomon. Mae'n cael ei ystyried yn ddiwrnod o alaru.

Gweld mwy

Cysgadrwydd y Theotokos

Cysgadrwydd y Theotokos (Cristnogaeth Uniongred)

15 Awst 2025

Dethlir Cysgadrwydd y Theotokos gan yr Eglwysi Uniongred Dwyreiniol, Uniongred Dwyreiniol, a Eglwysi Catholig y Dwyrain. Mae’n coffáu marwolaeth ac esgyniad Mair, mam Iesu Grist.

Gweld mwy

Medi 2025

Hydref 2025

Yom Kippur

Yom Kippur (Iddewiaeth)

01 Hyd 2025 - 02 Hyd 2025

Yom Kippur yw'r diwrnod mwyaf sanctaidd mewn Iddewiaeth a Samariadaeth. Mae'n ddydd o ofyn am edifeirwch a chymod ynghyd â gweddïau, ympryd ac elusen. Mae'n nodi diwedd dyddiau uchel sanctaidd yr Iddewon.

Gweld mwy