Symud i'r prif gynnwys

Rhagfyr 2025

Diwrnod Hawliau Dynol

Diwrnod Hawliau Dynol

10 Rhag 2025

Dethlir Diwrnod Hawliau Dynol yn fyd-eang ar y diwrnod hwn yn flynyddol. Yn ôl gwefan y Cenhedloedd Unedig “Dewiswyd y dyddiad hwn i gofnodi i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fabwysiadu a datgan y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol (UDHR) ar 10 Rhagfyr 1948, y datganiad byd eang cyntaf o hawliau dynol, ac un o lwyddiannau mawr cyntaf y Cenhedloedd Unedig newydd”.

Gweld mwy

Ionawr 2026

Diwrnod Braille y Byd

Diwrnod Braille y Byd

04 Ion 2026

Mae Diwrnod Braille y Byd yn cael ei ddathlu i anrhydeddu dyfeisiwr Braille, Louis Braille, a phwysigrwydd Braille fel arf cyfathrebu a grymuso i rai sydd â nam ar eu golwg.

Gweld mwy

Diwrnod Ymwybyddiaeth Masnachu Pobl

Diwrnod Ymwybyddiaeth Masnachu Pobl

11 Ion 2026

Nodir y diwrnod hwn er mwyn codi ymwybyddiaeth bellach o fater parhaus masnachu pobl ac atal y troseddau sy'n gysylltiedig ag ef yn fyd-eang.

Gweld mwy

Diwrnod Crefydd y Byd

Diwrnod Crefydd y Byd

18 Ion 2026

Mae Diwrnod Crefydd y Byd yn tarddu o’r egwyddorion Bahá’í o unplygrwydd crefydd a'i ddatguddiad blaengar, sy’n disgrifio crefydd fel rhywbeth sy’n datblygu’n barhaus ar hyd y cenedlaethau. Pwrpas Diwrnod Crefydd y Byd yw amlygu’r syniadau bod yr egwyddorion ysbrydol sydd wrth wraidd crefyddau’r byd yn gytûn, a bod crefyddau yn chwarae rhan bwysig wrth uno dynoliaeth.

Gweld mwy

Dydd Martin Luther King

Dydd Martin Luther King

19 Ion 2026

Mae Diwrnod Martin Luther King Jr yn ŵyl ffederal yn yr Unol Daleithiau sy'n nodi pen-blwydd Martin Luther King Jr a frwydrodd dros hawliau dynol ac urddas pawb, a'r cyfraniad wnaed gan ei etifeddiaeth tuag at geisio sicrhau byd cyfiawn a theg.

Gweld mwy

Diwrnod Rhyngwladol Addysg

Diwrnod Rhyngwladol Addysg

24 Ion 2026

Mae Diwrnod Rhyngwladol Addysg yn cael ei nodi i ddathlu rôl addysg er mwyn sicrhau heddwch, datblygiad a chreu cyfleoedd i ddynolryw fyw i'w llawn botensial.

Gweld mwy

Diwrnod Cofio'r Holocost

Diwrnod Cofio'r Holocost

27 Ion 2026

Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn ddiwrnod coffa rhyngwladol i ddioddefwyr yr Holocost, a arweiniodd at hil-laddiad traean o Iddewon, ynghyd ag aelodau di-rif o leiafrifoedd eraill, gan yr Almaen Natsïaidd rhwng 1933 a 1945.

Gweld mwy

Diwrnod Gwahanglwyf y Byd

Diwrnod gwahanglwyf y Byd

28 Ion 2026

Mae'r gwahanglwyf yn glefyd trofannol sydd wedi'i esgeuluso ond sy'n dal i ddigwydd mewn mwy na 120 o wledydd, gyda mwy na 200 000 o achosion newydd yn cael eu hadrodd bob blwyddyn. Mae'r diwrnod hwn yn cael ei goffáu er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r gwahanglwyf neu glefyd Hansen.

Gweld mwy

Mawrth 2026

Daniel a John Evans

Diwrnod Canser y Byd

04 Chwef 2026

Mae'r diwrnod hwn yn cael ei nodi'n rhyngwladol er mwyn parhau i godi ymwybyddiaeth o ganser a hefyd i annog ei ganfod, ei atal a'i drin.

Gweld mwy

Diwrnod Cyfiawnder Cymdeithasol y Byd

Diwrnod Cyfiawnder Cymdeithasol y Byd

20 Chwef 2026

Mae Diwrnod Cyfiawnder Cymdeithasol y Byd yn ddiwrnod rhyngwladol o ymwybyddiaeth i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol megis tlodi, allgáu, anghydraddoldeb rhyw, diweithdra, hawliau dynol, hunaniaeth rywiol a rhagfarn fiolegol a rhagfarn grefyddol.

Gweld mwy