Symud i'r prif gynnwys

Hydref 2025

Mis Hanes Pobl Dduon

Mis Hanes Pobl Dduon

01 Hyd 2025 - 31 Hyd 2025

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ddigwyddiad blynyddol sy'n tarddu o Unol Daleithiau America. Fe'i nodir i ddathlu diwylliant Affrica a'i chyfraniadau i gymdeithas.

Gweld mwy

0

Wythnos Ymwybyddiaeth Dyslecsia

06 Hyd 2025 - 13 Hyd 2025

Anhawster dysgu yw dyslecsia sy'n effeithio'n bennaf ar y sgiliau sy'n gysylltiedig â darllen geiriau a sillafu cywir a rhugl. Nodir y digwyddiad hwn yn flynyddol i godi ymwybyddiaeth o ddyslecsia.

Gweld mwy

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

10 Hyd 2025

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, diwrnod rhyngwladol a neulltiwyd i addysgu, codi ymwybyddiaeth ac ymgyrchu yn erbyn stigma cymdeithasol am iechyd meddwl ledled y byd, ac i ysgogi cefnogaeth i bobl sy'n dioddef o iechyd meddwl.

Gweld mwy

Diwrnod y Cenhedloedd Unedig

Diwrnod y Cenhedloedd Unedig

24 Hyd 2025

Mae diwrnod y Cenhedloedd Unedig yn nodi pen-blwydd sefydlu'r Cenhedloedd Unedig ym 1945.

Gweld mwy

Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhyngrywioldeb

Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhyngrywiol

26 Hyd 2025

Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhyngrywiol yn ddiwrnod ymwybyddiaeth byd-eang sy'n tynnu sylw at faterion hawliau dynol a'r rhagfarnau a wynebir gan bobl ryngrywiol.

Gweld mwy

Tachwedd 2025

Diwrnod Diabetes y Byd

Diwrnod Diabetes y Byd

14 Tach 2025

Cynhelir Diwrnod Diabetes y Byd ar y diwrnod hwn i godi ymwybyddiaeth fyd-eang am ddiabetes mellitus ac i ddathlu Syr Frederick Banting, a ddarganfuodd yr inswlin ynghyd â Charles Best ym 1922.

Gweld mwy

'Father and Son with Horse, Swansea, from series No Place Like Home © Richard Ansett 2021

Diwrnod Rhyngwladol Dynion

19 Tach 2025

Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Dynion i godi ymwybyddiaeth byd-eang am nifer o faterion sy’n wynebu dynion sy’n cynnwys dieithrio rhieni, hunanladdiad, trais a chamdriniaeth.

Delwedd uchod: 'Father and Son with Horse, Swansea, from series No Place Like Home © Richard Ansett 2021

Gweld mwy

Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais tuag at Fenywod

Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais tuag at Fenywod

25 Tach 2025

Mae Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod yn codi ymwybyddiaeth a cheisio dileu unrhyw fath o drais yn erbyn menywod. Mae’r rhain yn cynnwys trais ar sail rhywedd sy’n arwain at niwed seicolegol, corfforol neu rywiol, boed hynny mewn bywyd cyhoeddus neu breifat.

Gweld mwy

Rhagfyr 2025

Diwrnod Aids y Byd

Diwrnod Aids y Byd

01 Rhag 2025

Ers 1988, neilltuwyd y diwrnod hwn i godi ymwybyddiaeth o’r clefyd AIDS yn ogystal â'i atal ac i gondemnio stigmateiddio pobl sy'n dioddef o'r clefyd.

Gweld mwy

Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau

Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau

03 Rhag 2025

Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau yn rhyngwladol i godi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud ac anabledd ac i annog cefnogaeth i bobl ag anableddau trwy amrywiol weithgareddau. Sylwer bod "Derwen Cripples' Training College" yn cael ei ddefnyddio yn y catalog oherwydd dyna oedd y teitl cywir ar gyfer enw'r sefydliad yn 1955 pan dynnwyd y lluniau, fodd bynnag mae'r derminoleg a ddefnyddir ganddynt wedi newid ac fe'i gelwir bellach yn Goleg Derwen.

Gweld mwy