Symud i'r prif gynnwys

Chwefror 2027

Dydd San Ffolant

Dydd San Ffolant

14 Chwef 2027

Mae Dydd San Ffolant yn ddiwrnod pan mae pobl yn mynegi eu cariad at ei gilydd dros y byd. Mae'n ddiwrnod gŵyl merthyr Cristnogol o'r enw Ffolant.

Gweld mwy

Diwrnod Cyfiawnder Cymdeithasol y Byd

Diwrnod Cyfiawnder Cymdeithasol y Byd

20 Chwef 2027

Mae Diwrnod Cyfiawnder Cymdeithasol y Byd yn ddiwrnod rhyngwladol o ymwybyddiaeth i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol megis tlodi, allgáu, anghydraddoldeb rhyw, diweithdra, hawliau dynol, hunaniaeth rywiol a rhagfarn fiolegol a rhagfarn grefyddol.

Gweld mwy

Mawrth 2027

Paul Peter Piech, 'Racism is a Poison, © Ystâd yr Artist

Diwrnod Dim Gwahaniaethu

01 Maw 2027

Nod Diwrnod Dim Gwahaniaethu yw hyrwyddo cydraddoldeb a thynnu sylw at sut y gall pobl magu gwell dealltwriaeth o'r ffaith fod pawb yn haeddu byw bywyd llawn a chynhyrchiol. Mae'r diwrnod hwn yn cael ei goffáu er mwyn hyrwyddo cynhwysiant, tosturi a heddwch.

Gweld mwy

Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Diwrnod Rhyngwladol y Merched

08 Maw 2027

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddiwrnod ymwybyddiaeth fyd-eang sy'n cael ei ddathlu'n flynyddol gyda'r nod o roi llais i fenywod, gan dynnu sylw at faterion fel cydraddoldeb rhyw, cam-drin menywod, trais a hawliau atgenhedlu.

Gweld mwy

Diwrnod y Gymanwlad

Diwrnod y Gymanwlad

08 Maw 2027

Ers 1977, mae Diwrnod y Gymanwlad wedi cael ei ddathlu gan 56 o wledydd y Gymanwlad i feithrin gwerthoedd ac egwyddorion a rennir er mwyn sicrhau dyfodol heddychlon a chynaliadwy.

Gweld mwy

Diwrnod Rhyngwladol Hapusrwydd

20 Maw 2027

Sefydlwyd y diwrnod hwn gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 28 Mehefin 2012; mae Diwrnod Rhyngwladol Hapusrwydd yn cael ei ddathlu ledled y byd i atgoffa pobl o bwysigrwydd hapusrwydd.

Gweld mwy

Gŵyl Pan Geltaidd

Gŵyl Pan Geltaidd

30 Maw 2027 - 03 Ebr 2027

Mae'r Ŵyl Ban Geltaidd yn ŵyl o gerddoriaeth, dawns a chwaraeon a gynhelir yn flynyddol yn Iwerddon. Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf yn Swydd Kerry gyda’r nod o feithrin a hyrwyddo ieithoedd y gwledydd Celtaidd. Mae Cymru wedi cael ei chynrychioli yn yr ŵyl ers ei sefydlu yn 1971.

Gweld mwy

Ebrill 2027

Diwrnod Jazz y Byd

Diwrnod Jazz Rhyngwladol

30 Ebr 2027

Mae Diwrnod Jazz Rhyngwladol yn ddiwrnod rhyngwladol sy'n cael ei ddathlu'n flynyddol ledled y byd.Yn ddathiad ogerddoriaeth jazmae'n codi ymwybyddiaeth o sut mae cerddoriaeth yn dod â phpbl ynghyd heddwch, undod a chariad.

Gweld mwy