Symud i'r prif gynnwys

Chwefror 2027

Dydd Mercher y Lludw

Dydd Mercher Lludw

10 Chwef 2027

Mae Dydd Mercher y Lludw yn ddiwrnod sanctaidd o weddïo ac ymprydio mewn llawer o eglwysi Cristnogol. Mae'n nodi diwrnod cyntaf deugain diwrnod y Grawys, sy'n arwain at y Pasg.

Gweld mwy

Dydd San Ffolant

Dydd San Ffolant

14 Chwef 2027

Mae Dydd San Ffolant yn ddiwrnod pan mae pobl yn mynegi eu cariad at ei gilydd dros y byd. Mae'n ddiwrnod gŵyl merthyr Cristnogol o'r enw Ffolant.

Gweld mwy

Diwrnod Nirvana

Diwrnod Nirvana (Bwdist)

15 Chwef 2027

Mae Diwrnod Nirvana yn wyliau Bwdhaidd Mahayana a ddethlir yn Asia. Yn Bhwtan, mae'n cael ei ddathlu ar y pymthegfed diwrnod o bedwerydd mis calendr Bhutan. Mae’n dathlu’r diwrnod pan ddywedir bod y Bwdha wedi cyflawni Nirvana yn gyflawn, ar farwolaeth ei gorff.

Gweld mwy

Mawrth 2027

Dydd Gŵyl Dewi

Dydd Gŵyl Dewi

01 Maw 2027

Dewi Sant yw nawddsant Cymru. Dethlir ei ŵyl drwy wisgo Cennin Pedr a chennin, symbolau cydnabyddedig o Gymru a Dewi Sant, bwyta bwyd traddodiadol Cymreig gan gynnwys cawl a brithyn Cymreig, a merched yn gwisgo gwisg Gymreig draddodiadol. Cynhelir gorymdaith - parêd ar y diwrnod hwn yn nifer fawr o drefi Cymru.

Gweld mwy

Lailat Al-Qadr

Lailat Al-Qadr (Islam)

05 Maw 2027

Gelwir Laylat al-Qadr hefyd yn Noson Grym. Mae'n disgyn ar un o'r diwrnodau odrif yn nyddiau olaf Ramadan. Fe'i hystyrir yn noson fwyaf sanctaidd yn Islam.

Gweld mwy

Maha Shivaratri

Maha Shivaratri (Hindŵ)

06 Maw 2027

Mae Maha Shivaratri yn ŵyl Hindŵaidd sy’n dathlu’r Arglwydd Shiva, sef un o brif dduwiau Hindŵaeth.

Gweld mwy

Eid Al Fitr

Eid Al Fitr (Islam)

09 Maw 2027

Mae Eid al-Fitr yn wledd sy'n cael ei dathlu gan Fwslimiaid ledled y byd. Mae'n nodi diwedd mis sanctaidd Ramadan.

Gweld mwy

Dydd Sant Padrig (Cristnogol)

17 Maw 2027

Roedd Sant Padrig yn genhadwr ac yn Esgob Cristnogol Rhufeinig-Brydeinig yn Iwerddon o'r 5ed ganrif. Mae Gŵyl Sant Padrig yn ŵyl genedlaethol ,ysbrydol a diwylliannol yn Iwerddon sy'n cynnwys gorymdeithiau a gwyliau cyhoeddus, céilithe, a gwisgo gwisg werdd neu siamroc.

Gweld mwy

Nowruz (Blwyddyn Newydd Perseg / Zoroastrian)

20 Maw 2027

Nowruz yw Blwyddyn Newydd Iranaidd neu Bersaidd a ddethlir gan ddiwylliannau niferus ledled y byd. Mae'n seiliedig ar galendr Hijri Solar Iranaidd. Honnir bod y dwirnod yn nodi dychweliad ysbryd a oedd wedi'i fwrw o dan y ddaear yn ystod misoedd oer y gaeaf. Gyada wreiddiau mewn Zoroastrianiaeth.

Gweld mwy

Holi

Holi (Hindw)

22 Maw 2027

Holi yw gŵyl Hindŵaidd o liwiau, cariad a gwanwyn. Mae'n cael ei ddathlu bob blwyddyn gyda brwydr lliw anhrefnus enfawr. Mae dathliadau Holi yn atgof o fuddugoliaeth daioni dros ddrygioni.

Gweld mwy