Y Llyfrau Gleision

Ym 1846 cyflwynodd William Williams, Aelod Seneddol dros Coventry, symudiad a fyddai’n arwain at ymchwiliad swyddogol i gyflwr addysg yng Nghymru. Yn ôl Williams, a’r Llywodraeth Brydeinig yn gyffredinol, yr oedd y Cymry’n gyflym ddatblygu i fod yn garfan derfysglyd ac afreolus, ac felly hefyd yn bygwth sylfaeni gymdeithas. Yn ogystal, yr oedd swyddogion Llywodraethol yn argyhoeddedig mai’r iaith Gymraeg oedd cyfrwng y fath gweithgarwch. Yn ôl Kay-Suttleworth, Ysgrifennydd y Cyngor Addysg, byddai’r comisiwn cynnal “ymholiad i gyflwr addysg yng Nghymru, ac yn canolbwyntio ar fynediad y dosbarthiadau is i addysg a gwybodaeth cyfrwng Saesneg” – hynny yw iaith masnach, addysg uwch, llywodraeth a chyfraith. Fe benodwyd tri dirprwy i ymchwilio’r achos; R. W. W. Lingen, J. C. Symons a H. V. Johnson. Cyhoeddwyd eu casgliadau ar ffurf adroddiadau diweddarach, sy’n cael eu hadnabod fel ‘Y Llyfrau Gleision’. Beirniadwyd ansawdd cyffredinol addysg yng Nghymru, gan gynnwys safon yr athrawon ynghyd a chyfleusterau a lleoliadau’r ysgolion. Serch hynny, rhaid cofio nad oedd cyflwr addysg yn Lloegr llawer gwell i’r mwyafrif o’r boblogaeth. Sylwadau’r dirprwywyr ynghylch anfoesoldeb a chymeriad y Cymry a daniodd yr ymateb chwyrnaf, yn enwedig eu nodiadau ar fenywod Cymreig. Er mai dim ond chwe tudalen o’r adroddiadau swmpus a’u neilltuwyd ar gyfer y fath beirniadaethau, fe’u trafodwyd yn helaeth gan y wasg genedlaethol. Fe welwyd yr adroddiadau fel ymosodiadau ar yr iaith Gymraeg hefyd o ganlyniad i’r beirniadaethau niferus a gyflwynwyd ynghylch israddoldeb yr iaith.