Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain


Roedd Edward Williams (Iolo Morgannwg) yn fardd, awdur a hynafiaethydd nodedig. Bu’n aelod brwd o gymdeithasau Cymry-Llundain ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ac fe effeithiwyd ef yn fawr gan ddatblygiadau diwylliannol a hynafiaethol y cyfnod. Ym 1792, cynhaliodd Iolo gyfarfod cyntaf Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn Llundain. Yn ystod yr achlysur hwnnw, cyflwynodd ffurf o dderwyddiaeth, ond fe ddarganfuwyd yn ddiweddarach nad oedd gan y fath gynulliad wreiddiau hanesyddol. Y mae Iolo ymhlith rhai o ffigyrau hanesyddol a llenyddol mwyaf dadleuol Cymru. Fe gyhoeddwyd y gyfrol 'Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain' ym 1829, tair blynedd wedi marwolaeth yr awdur. Thesis unigryw ydyw ar darddiad y grefft farddonol Cymraeg ac fe arddangosa’r awdur ei afael gadarn ar y pwnc yn y gyfrol. Serch hynny y mae dychymyg neilltuol Iolo i’w weld yn glir yn ‘Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain’. Gwrthoda er enghraifft y safonau a ffurfiwyd gan Dafydd ab Edmwnd yn y bymthegfed ganrif, gan gynnig yn eu lle hen fesurau caeth, yn ogystal â rhai newydd. Cefnogodd Iolo ei ddamcaniaethau â ffug enghreifftiau. Yr oedd y rhain yn deillio o waith beirdd hynafol Morgannwg, ac yn nhyb Iolo, yn brawf o ragoriaeth ac awdurdod llenyddol beirdd ei ardal enedigol.