Cwmardy: the story of a Welsh mining valley


Gweithredydd gwleidyddol a nofelydd oedd Lewis Jones. Roedd yn ffigwr blaenllaw yn y rhan fwyaf o wrthdrawiadau diwydiannol dechrau’r 20fed ganrif, er enghraifft Streic Gyffredinol 1926, protestiadau yn erbyn y Prwaf Moddion (a gyflwynwyd yn y 1930au), a’r gorymdeithiau newyn enwog i Lundain – 1932, 1934 ac 1936. Roedd Jones hefyd yn aelod brwd o’r Blaid Gomiwnyddol. Mae rhychwant ei waith llenyddol yn syfrdanol am iddo, mewn cyfnod byr, anodd a phrysur, ysgrifennu dwy nofel am gymoedd glofaol De Cymru. Er nad yw’r cyfrolau’n ddi-fai o safbwynt llenyddol, mae eu cynnwys yn nodedig  ac yn parhau i fod yn arbennig o bwerus. Bwriadai i’w nofelau ‘Cwmardy’ a ‘We Live’ gael eu darllen mewn trefn. Maent yn ymdrin â Streic y Cambrian Combine yn 1910-11 a brwydr y glowyr hyd at 1926.